Pont i’r Bannau

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi ailosod pont allweddol sy’n cysylltu llwybr troed cyhoeddus â chadwyni mynyddoedd Bannau Brycheiniog.

Mae’r prosiect yn rhan o Raglen Ariannu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy ar gyfer y Parc Cenedlaethol ac mae’n un o wyth cynllun sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Gweithiodd Wardeiniaid y Parc Cenedlaethol ochr yn ochr â gwirfoddolwyr i ailosod y bont droed ar ymyl ogleddol y Bannau ger Login, nid nepell o Libanus. Mae’r llwybr yn boblogaidd ymhlith cerddwyr, ac wrth i dymor y gwanwyn agosáu bydd yn cael ei ddefnyddio tipyn dros y misoedd nesaf.

Mae dros bum miliwn o bobl yn ymweld â’r Parc Cenedlaethol bob blwyddyn ac mae cerdded yn un o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd. Mae’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy yn canolbwyntio ar gynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith o lwybrau cerdded y gall ymwelwyr a phobl leol eu mwynhau, fel ei gilydd.

Dywedodd Julian Atkins, Prif Swyddog Gweithredol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy yn hanfodol i’r Parc Cenedlaethol. Yn ddiweddar, fe’n dyfarnwyd yn Gyrchfan Orau Cymru ac mae ein llwybrau cerdded yn un o’n prif atyniadau. Mae’r gwaith o amgylch y Bannau yn rhoi mynediad i’n mynyddoedd enwog.”

 

 – DIWEDD –