Grwpiau Cymunedol yn Cyrraedd Rownd Derfynol ITV

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi bod yn gweithio’n agos â Grŵp Cynhwysiant Brycheiniog Actif a Phobl yn Gyntaf Caerdydd ac mae’r ddau wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth genedlaethol. Maen nhw nawr angen cefnogaeth y gymuned leol.

Yn ei 13eg blwyddyn, mae’r Gronfa Loteri Fawr, ITV a’r Loteri Genedlaethol wedi dod at ei gilydd i roi cyfle i’r cyhoedd benderfynu sut y dylai arian y Loteri Genedlaethol gael ei wario.

Mae’r ‘Green Team’, sef Grŵp Cynhwysiant Brycheiniog Actif, wedi bod yn gweithio yn y Parc Cenedlaethol i wella ardaloedd gwyrdd a darparu cyfleoedd hyfforddiant i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a chorfforol. Mae Pobl yn Gyntaf Caerdydd, ‘Ain’t No Mountain High Enough’, yn fenter sy’n anelu at adeiladu sgiliau cymdeithasol a hyder mewn pobl sydd ag anawsterau dysgu drwy fynd â nhw i gerdded yn y Bannau.

Gallai’r tri phrosiect sydd wedi derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau yng nghategori Cymru’r gystadleuaeth dderbyn hyd at £50,000 o arian ac mae’r grwpiau’n gobeithio am gefnogaeth leol. I ddangos eich cefnogaeth ac i helpu’r grwpiau cymunedol lleol hyn, ewch i www.thepeoplesprojects.org.uk/projects/region/wales lle gallwch wylio fideo am bob prosiect, a phleidleisio.

Dywedodd Joe Ferns, Cyfarwyddwr Cyllid y DU y Gronfa Loteri Fawr:

“Fel ariannwr mwyaf gweithgareddau cymunedol yn y DU, rydym yn falch o gefnogi grwpiau ar lawr gwlad sy’n defnyddio gweledigaeth, penderfyniad ac egni pobl leol i gryfhau cymunedau.”

Ychwanegodd Julian Atkins, Prif Swyddog Gweithredol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae ein Tîm Cymunedau wedi bod yn gweithio’n galed iawn gyda Grŵp Cynhwysiant Brycheiniog Actif a Phobl yn Gyntaf Caerdydd, ac mae’n dipyn o gamp i gyrraedd y rownd derfynol. Serch hynny, rydym yn awr yn gobeithio bydd pobl leol yn dangos eu cefnogaeth i’r cynlluniau llesol hyn a phleidleisio drostynt ar-lein. Mae’r ddau grŵp hyn yn gwneud gwaith cadarnhaol wrth gefnogi cynhwysiant cymdeithasol, a deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol Llywodraeth Cymru.”

 – DIWEDD –