Trawsnewid Gwaith Powdwr Gwn yn Ddosbarth i Blant Ysgol!

Cafodd plant Ysgol Gynradd Penderyn gyfle i ddysgu am hanes diwydiannol yr ardal trwy ymweld â’r hen Weithfeydd Powdwr Gwn ger Pontneddfechan.

Arweiniwyd y plant o gwmpas y safle treftadaeth gan Swyddogion Addysg Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a’u hanogodd i ddysgu mwy am eu hamgylchedd naturiol ac i gysylltu â’r gorffennol.

Dim ond dwy weithfa o’r fath sydd yng Nghymru, ac roedd y powdwr a gynhyrchwyd ym Mhontneddfechan yn hanfodol ar gyfer ffyniant diwydiant yn ystod y 19eg Ganrif a’r 20fed Ganrif. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wrthi’n gweithredu prosiect i ddiogelu’r safle ar gyfer y dyfodol, gan ddefnyddio nawdd gan y Loteri Dreftadaeth i warchod y strwythur ac i’w adfywio fel safle i addysgu.

Cafwyd taith tywys gan Swyddogion Addysg y Parc Cenedlaethol, gan ganolbwyntio ar hanes y safle a rhoi cyfle i’r plant weld a deall yr adfeilion. Bu’r plant hefyd yn cyflawni gweithgareddau a oedd yn ymwneud â’r amgylchedd naturiol a’r fioamrywiaeth sydd yn bodoli yn yr ardal. Fel rhan o’r prosiect, a noddir gan y Loteri Dreftadaeth, mae’r Awdurdod yn gobeithio sbarduno pobl leol i ymweld a defnyddio’r ardal, yn ogystal â chreu llysgenhadon ifanc i’r Parc trwy gysylltu â phlant ysgol.

Dywedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; “Mae’r Gwaith Powdwr Gwn yn rhan bwysig o’n treftadaeth, a bu’n rhan annatod o’r chwyldro diwydiannol. Bydd y prosiect hwn yn diogelu’r adfeilion yma er budd cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n wych gweld plant ysgol lleol yn frwdfrydig dros ein prosiectau, ac yn derbyn addysg o fewn ein Parc Cenedlaethol.”

– DIWEDD –