Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn derbyn gwobr ‘Cymraeg yn y Gweithle’

Mae Sefydliad Datblygu Proffesiynol Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno gwobr ‘Cymraeg yn y Gweithle’ i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ystod y seremoni Dysgu Gydol Oes a Dysgu Cymraeg flynyddol a gynhaliwyd ar 23 Hydref.

Mae’r wobr yn cydnabod gwaith cyflogwyr sy’n cefnogi eu staff wrth iddynt ddysgu Cymraeg gyda chyrsiau ‘Learn Welsh’, ac yn gyfle i ddathlu llwyddiant a chynnydd y dysgwyr.

Dyfarnwyd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn haeddiannol o’r wobr gan fod tri ar ddeg o staff y parc wedi mynychu cyrsiau ‘Learn Welsh’ yn ardal Aberhonddu yn 2016/17. Mae’r parc wedi hybu’r defnydd o Gymraeg gan staff o’r cychwyn cyntaf, yn fewnol yn ogystal â gyda’r cyhoedd, gan roi amser i staff fynychu cyrsiau Cymraeg yn eu cymuned a chyfrannu tuag at gostau’r cyrsiau hefyd.

Dywedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Rydym wrth ein boddau o gael ein cydnabod, ac yn falch iawn o dderbyn y wobr. Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’n diwylliant a’n treftadaeth. Hoffwn ddiolch i’n staff am eu gwaith caled a’u hymroddiad, ac rwy’n hyderus y bydd ganddynt yr hyder i ddefnyddio’r iaith gyda’r gymuned leol, ymwelwyr, ac o fewn y gweithle”.

DIWEDD