Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn lansio llyfr poblogaidd yng Ngŵyl y Gelli

Lansiwyd llyfr newydd, ‘Myths & Legends of the Bannau Brycheiniog’, mewn digwyddiad lle’r oedd pob tocyn wedi ei werthu yng Ngŵyl Lenyddol y Gelli dros benwythnos gŵyl y banc. Cafodd cynulleidfa o dros 700 o bobl eu cyfareddu gan yr awdur poblogaidd Horatio Clare a fu’n darllen yn uchel o’r llyfr o straeon byrion a aeth yn syth i frig rhestr y gwerthwyr gorau ar y safle.

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gartref i nifer o chwedlau swynol, ac mae Horatio wedi cymryd 10 ohonynt a’u hail-ddweud mewn llais cyfoes. Agorwyd y digwyddiad gan Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Cafodd Horatio ei gyfweld gan Gyfarwyddwr yr ŵyl, Peter Florence, a diddanwyd y  dorf wrth iddo esbonio sut yr aeth ati i ymchwilio’r prosiect cyn darllen, ‘The Wild Boar Chase’, ‘The Lady of the Lake’ a ‘The Real Christmas Day Massacre’ i’r gynulleidfa. Rhaid bod y straeon wedi cydio ym mhawb, gan iddyn nhw i gyd ruthro i siop lyfrau’r Ŵyl i brynu copi o’r llyfr. Cadwyd Horatio’n brysur am awr a hanner ar ôl y digwyddiad, yn llofnodi copïau o’r llyfr, a’r llyfr oedd y gwerthwr gorau ar y safle y diwrnod hwnnw.

Dros yr wythnosau nesaf bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnwys yr holl straeon  ar eu safle partneriaeth www.breconbeacons.org gan gynnwys llwybrau teithio hefyd. Gall darllenwyr chwilio am yr ogof lle mae Arthur a’i farchogion yn cysgu rhywle wrth ymyl  Craig y Ddinas, neu ymweld â Pharc Gwledig Craig y Nos i edmygu stad fu unwaith yn berchen i Adelina Patti – y gantores Opera enwocaf o Oes Fictoraidd. Yn cyd-fynd â phob chwedl mae map a chymeriadau wedi’u darlunio’n unigol gan yr arlunydd Jane Matthews, sy’n gweithio’n aml gyda Horatio Clare.

Dywedodd Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, a agorodd y lansiad:

“Enwyd 2017 yn Flwyddyn y Chwedlau gan Croeso Cymru, ac mae’r llyfr newydd hwn yn ddathliad arbennig o’r thema hwnnw. Mae’n ffordd wych o gyflwyno rhai o’r chwedlau niferus sydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i bobl, gan eu hannog i fynd allan i ail-ddilyn golygfeydd y straeon dros eu hunain.”

Ychwanegodd Peter Gill, o gwmni Graffeg:

“Mae Bannau Brycheiniog yn frith o straeon hynod – cestyll ag ysbrydion, llynnoedd diwaelod, yn ogystal ag adleisiau o wyrthiau a chyflafanau. Mae Horatio wedi rhoi llais o’r 21ain ganrif i’r straeon hyn, gan danlinellu bod moeswersi’r straeon hyn mor berthnasol heddiw ag oedden nhw gannoedd o flynyddoedd yn ôl.”

Dywedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Mae’r llyfr hardd hwn, sydd wedi’i gyhoeddi mewn partneriaeth ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Graffeg yn cynnwys rhai o straeon hudol gorau’r Parc Cenedlaethol, ac fe wnaeth Horatio ddod â nhw’n fyw yng Ngŵyl y Gelli. Roedd y syniad, a ddaeth gan Carol Williams, Swyddog Twf Twristiaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yn un wych ac rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu iddo. Fe wnes i fwynhau ei ddarllen yn fawr a byddwn i’n ei argymell yn bersonol fel llyfr y dylech ei ddarllen. Mae’r 10 chwedl yn dod o bob cornel o’r Parc felly gal pawb ddod o hyd i chwedl gerllaw i’w archwilio. Credwn y bydd ein cymunedau a’n hymwelwyr wrth eu bodd yn cael y cyfle i blymio i mewn i ffordd newydd o edrych ar y Parc Cenedlaethol trwy lygaid adroddwyr y chwedlau rhyfeddol hyn.”

Gellir prynu ‘Myths & Legends of the Bannau Brycheiniog’ ar hyn o bryd ar-lein ar www.beacons-npa.gov.uk/shop , yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ger Libanus, Canolfan Groeso Y Fenni, Canolfan Groeso Llanymddyfri, yn ogystal â gwerthwyr llyfrau annibynnol lleol.

DIWEDD