Disgyblion Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn lansio cyhoeddiad am y biblinell nwy

Mae naw disgybl o Ysgol Uwchradd Aberhonddu wedi lansio cyhoeddiad newydd, ‘A Line Through Time’, mewn gwasanaeth arbennig yn yr ysgol. Mae’r llyfryn yn llawn gwybodaeth am y darganfyddiadau archeolegol a wnaed wrth osod y biblinell nwy sy’n mynd drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ymunodd Nigel Blackamore â’r disgyblion, Uwch Geidwad Oriel Gelf ac Amgueddfa Brycheiniog, a daeth â gwayw-fwyell 4000 mlwydd oed, darganfyddiad prin o’r Oes Efydd a ddarganfuwyd yn ystod gwaith adeiladu’r biblinell wrth ffos gylch, ger Trecastell, gydag ef.

Gosodwyd y biblinell nwy o Aberdaugleddau i Aberhonddu ar draws adran o’r Parc Cenedlaethol yn 2005-7 gan y Grid Cenedlaethol. Mae’r tir bellach yn edrych fel yr arferai, ond bellach gellir rhannu’r hyn a ganfuwyd yn ystod y gwaith cloddio archeolegol oddeutu 10 mlynedd yn ôl, gan ddatgelu hanes a oedd yn cuddio dan yr wyneb.  Comisiynwyd Cotswold Archaeology, a gloddiodd y rhan fwyaf o’r safleoedd archeolegol ar hyd y llwybr, gan y Grid Cenedlaethol i gofnodi’r darganfyddiadau, gan eu gwneud ar gael i blant ysgol a chymunedau lleol. Cysylltodd Tîm Ymgysylltu Cyhoeddus Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a gynorthwyodd y Cotswold Archaeology i gynhyrchu’r llyfryn, gydag Ysgol Uwchradd Aberhonddu i gynnig cyfle dysgu unigryw iddyn nhw, a bod yr ysgol gyntaf i gael cyswllt â’r darganfyddiadau. Bu disgyblion blwyddyn saith ac wyth yn gweithio gyda staff yr awdurdod i ymchwilio a llunio cyflwyniad diddorol. Cafodd y cyflwyniad ei gyflwyno’n wych gan Jenna Welch, Kelsey Bonnar, Jack Prytherch, Ryan Williams, Shauna Evans, Cerys Beckett, Dylan Rees, Gwenllian Kenchington a Charlie Harries i’w cyd-ddisgyblion yn y gwasanaeth ysgol.

Dywedodd Mr R BroadBridge, Pennaeth Ysgol Uwchradd Aberhonddu a fynychodd y cyflwyniad; “Diolch i Awdurdod y Parc Cenedlaethol am ein cynnwys yn y lansiad cyffrous hwn ac i Amgueddfa Brycheiniog am ddod ag arteffact pwysig er mwyn i’r plant ei weld.  Mae rhoi cyfle i ddisgyblion ddysgu am hanes y lle maent yn byw ynddo, a’u hannog i rannu’r wybodaeth hynny wedi bod yn brofiad gwerth chweil i bawb.”

Dywedodd Nigel Blackamore, Uwch Geidwad Oriel Gelf ac Amgueddfa Brycheiniog;

“Darganfyddwyd y wayw-fwyell, sy’n arf o’r Oes Efydd gynnar, wrth gloddio yn Nhrecastell. Dyma ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf, ac ar ran yr amgueddfa, hoffwn ddiolch i’r disgyblion am eu cyflwyniad gwych, gwnaeth eu hymchwil argraff fawr arnaf. Rydym yn gobeithio y bydd pawb yn ymweld â’r amgueddfa pan fydd hi’n agor yn 2018 i weld mwy o wrthrychau.”

Dywedodd Mr Julian Stedman, Hyrwyddwr Aelodau Treftadaeth Ddiwylliannol a Hanesyddol Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Rwy’n falch fod y darganfyddiadau ers gosod y biblinell bellach wedi’u cyhoeddi ac ar gael i bawb yn y llyfryn darluniadol hwn. Mae nifer o gymunedau o fewn y Parc Cenedlaethol yn awyddus i wybod beth a ddarganfuwyd wrth wneud y gwaith ac mae’n bwysig fod y wybodaeth hon ar gael iddyn nhw.”

Mae copïau o’r llyfryn ‘A Line Through Time: archaeological discoveries in the Bannau Brycheiniog National Park during the installation of the Milfor Haven and Bannau Brycheiniog gas pipeline’, ar gael am ddim yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ger Libanus, Parc Gwledig Craig y Nos ac ym Mhrif Swyddfeydd y Parc Cenedlaethol yn Aberhonddu, tra bo cyflenwad.

Hefyd gellir eu gweld a’u lawrlwytho am ddim o wefan Cotswold Archaeology http://cotswoldarchaeology.co.uk/publication/a-line-through-time. Mae adroddiadau mwy manwl o’r safleoedd unigol hefyd ar gael drwy wefan Cotswold Archaeology http://reports.cotswoldarchaeology.co.uk/ a bydd crynodeb ohonynt mewn monograff sydd ar ddod.

DIWEDD