Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ail-ethol Melanie Doel yn Gadeirydd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol blynyddol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar ddydd Llun 19 Mehefin 2017 ym Mhrif Swyddfa’r Awdurdod yn Aberhonddu. Pleidleisiwyd Melanie Doel yn Gadeirydd yr Awdurdod yn unfrydol a’r Cynghorydd Glynog Davies yn Ddirprwy Gadeirydd, y ddau ohonynt am y drydedd flynedd yn olynol, gan groesawu deg aelod newydd a’r aelodau hynny a oedd yn dychwelyd i’r Awdurdod.

Mae 24 aelod yn Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ac yn dychwelyd roedd aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol o Bowys; y Cynghorydd David Meredith, y Cynghorydd Phil Pritchard a’r Cynghorydd Michael Jones, ac o Sir Fynwy roedd y Cynghorydd Ann Webb, a’r Cynghorydd Andrew James o Sir Gâr.

Yn ymuno â nhw yr oedd deg aelod sydd newydd gael eu hethol, gan gynnwys y Cynghorydd Gareth Ratcliffe, Y Cynghorydd Karen Laurie-Parry, y Cynghorydd Emily Durrant, y Cynghorydd Edwin Roderick a’r Cynghorydd Sarah Lewis o Sir Powys. Y Cynghorydd John Hill o Flaenau Gwent, y Cynghorydd Giles Davies o Dorfaen, y Cynghorydd Paul Brown o Ferthyr Tudful, y Cynghorydd Graham Thomas o Rondda Cynon Taf a’r Cynghorydd Mathew Feakins o Sir Fynyw.

Hefyd yn bresennol yr oedd chwe aelod arall o Lywodraeth Cymru, Mr Edward Evans, yr Athro Alan Lovell, Mr James Marsden, Ms Deborah Perkin, Mr Ian Rowat a Mr Julian Stedman. Mae un swydd wag ar gyfer Llywodraeth Cymru yn dilyn ymddeoliad aelod hir sefydlog Margaret Underwood a orffennodd ei thymor o ddeng mlynedd gyda’r Awdurdod ym mis Mawrth 2017.

Dywedodd Mrs Melanie Doel, sydd newydd gael ei hethol yn Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog :

“Diolch i bawb am eich cefnogaeth heddiw a thros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol gyda nifer o newidiadau ond gyda nifer o ganlyniadau gwych hefyd. Rwyf yn falch fod yr awdurdod hwn wedi troi’r heriau hynny yn gyfleoedd. Mae’r Ganolfan Groeso yn Libanus yn mynd o nerth i nerth gyda busnes arlwyo newydd llwyddiannus. Mae hi hefyd yn darparu llwyfan gyffrous i grefftwyr lleol i hyrwyddo a gwerthu eu nwyddau. Mae’r awdurdod yn parhau â’u hymrwymiad i’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy, ac ar gyfer pob punt yr ydym yn ei buddsoddi, mae’n dod ag wyth punt ychwanegol i’r gymuned. Mae termau newydd yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod llwybrau cerdded yn cael eu cadw ar agor a bod ein perfformiad cynllunio a’n henw da yn parhau i dyfu. Mae’r newidiadau staffio diweddar wedi bod yn heriol, ond er gwaethaf hynny, mae staff wedi parhau i fod yn gadarnhaol gyda strwythur newydd perthnasol a chadarn bellach ar waith. Rwyf yn falch i barhau â’m swydd fel Cadeirydd yr Awdurdod a byddaf yn gwneud fy ngorau glas i gefnogi’r Awdurdod a’r bobl hynny sy’n byw ac yn gweithio ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Glynog Davies, sydd newydd gael ei ethol yn Ddirprwy Gadeirydd yr Awdurdod:

“Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn i gael fy ethol yn Ddirprwy Gadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol unwaith eto. Mae hi wedi bod yn bleser cefnogi rôl Melanie Doel fel Cadeirydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda hi, yn ogystal ag aelodau a swyddogion Awdurdod y Parc Cenedlaethol am flwyddyn arall. Rydym i gyd yn gweithio gyda’n gilydd yn dda, a gobeithiaf y byddwn yn parhau i wneud hynny am amser hir i ddod.”

Yn ystod y cyfarfod cyffredinol blynyddol, etholwyd Mr Edward Evans, y cyn Ddirprwy Gadeirydd, yn Gadeirydd Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy (PAROW) gyda’r Cynghorydd Michael Jones yn cael ei ethol yn Ddirprwy Gadeirydd PAROW. Etholwyd y cyn Ddirprwy Cadeirydd, y Cynghorydd Ann Webb, yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Chraffu gyda Mr Ian Rowat yn Ddirprwy Gadeirydd.

I wylio recordiad o’r cyfarfod, ewch i https://breconbeacons.public-i.tv/core/portal/home ac am fwy o wybodaeth ynglŷn â strwythur y pwyllgor ac aelodaeth ewch www.beacons-npa.gov.uk.

DIWEDD

DIWEDD