Mynediad at Lyn y Fan Fach

Bydd oedi hir yn bosibl ar y trac i Lyn y Fan Fach yn ystod mis Medi. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gweithio mewn partneriaeth gyda Dŵr Cymru i arwynebu’r trac. Ni fydd y trac yn cael ei gau yn llwyr nes bydd yn rhaid gosod y tarmac, ac unwaith y bydd gennym ddyddiad ar gyfer y gwaith tarmacio byddwn yn cyhoeddi hysbysiad wedi’i ddiweddaru.

Mae arian ar gyfer y prosiect wedi dod oddi wrth Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru.

Disgwyliwch oedi ar hyn o bryd a byddwn yn eich hysbysu pan fydd y trac yn cael ei gau yn llwyr.

Unwaith y bydd y gwaith wedi’i wneud, bydd y gwelliannau a wneir i gyflwr y trac o fudd mawr i holl ymwelwyr i’r  Llyn y Fan Fach.