Dau Olympiad i agor Canolfan Gymunedol Pentref Talybont!

Ar ddydd Sadwrn y 16eg o Fedi bydd Canolfan Gymunedol Pentref Talybont yn cael ei ail-agor ar ei newydd wedd, a chan neb llai na phencampwr seiclo’r byd a deiliad medal Olympaidd arian, Becky James, a’r Paralympiad medal aur, tennis bwrdd, Rob Davies. Mae gan y ganolfan newydd yn Neuadd Henderson, Talybont-ar-wysg, faes chwarae cymunedol newydd, cyfleusterau gwell i ymwelwyr, ac eco-olchwr newydd ar gyfer beiciau! Bydd dathliad cymunedol yn cael ei gynnal rhwng 2:30-4:30yh, ac mae croeso i bawb o’r ardal!

Cafodd y prosiect £250,000 ei noddi gan y Gronfa Loteri Fawr, a’i gefnogi gan y Cyngor Cymunedol a chymuned Talybont. Crëwyd llwybr hygyrch o amgylch y maes chwarae ar gyfer beiciau’r plant, maes chwarae newydd sbon, a gwelliannau mawr i’r gegin a’r toiledau o fewn y neuadd. O gynnwys y golchwr beiciau newydd yn y prosiect, yn ogystal â’r cawodydd, mae’r ganolfan yn awr yn safle allweddol ar gyfer yr holl feicwyr sy’n ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn ogystal â’r rhai sy’n defnyddio’r holl lwybrau sydd o gwmpas y pentref.

Bydd digonedd o hwyl a sbri i blant ac oedolion yn yr agoriad, a chofiwch ddod â’ch beiciau i grwydro’r llwybrau newydd! Bydd te a chacennau ar gael, yn ogystal â chyfle i gwrdd â dau Olympiad lleol. Bydd y digwyddiad hefyd yn nodi agoriad mynedfa newydd i’r neuadd, gan wneud y ganolfan yn fwy hygyrch o’r brif ffordd.

Dywedodd Clare Wright o’r Grŵp Llywio Loteri Fawr Talybont;

“Bydd y ganolfan newydd yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr lleol, ac rydym yn gobeithio bydd y cyfleusterau newydd yn denu ymwelwyr a sefydliadau i ddefnyddio’r safle, gan sicrhau cynaladwyedd y prosiect yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Glyn Thomas, Cadeirydd Cyngor Cymunedol Talybont: “Rydym wrth ein boddau gyda’r ganolfan gymunedol newydd yn Neuadd Henderson. Mae Talybont yn safle poblogaidd dros ben ar gyfer beicio o bob math, a bydd y cyfleusterau hyn yn gwella’r profiad i bobl leol yn ogystal ag ymwelwyr, gan ddenu mwy o bobl i’r ardal a chynnal busnesau a’r economi leol. Rydym yn eiddgar i groesawu pobl i’r agoriad, ac yn teimlo’n freintiedig iawn o gael cwmni Becky James a Rob Davies yno.”

DIWEDD