Ymgyrch ariannu torfol llwyddiannus yn trwsio llwybr troed poblogaidd

Mae gwaith atgyweirio un o’r llwybrau troed sydd wedi erydu fwyaf yng nghalon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cael ei gwblhau diolch i arian gan Ymgyrch Adfer Ein Mynyddoedd 2016. Llwybr Neuadd sydd uwchben Cronfa Ddŵr Neuadd a rhan o’r llwybr siâp pedol ble gellir gweld holl fynyddoedd y Bannau Canolog gafodd ei atgyweirio. Mae nawr yn barod am y miloedd o ymwelwyr a fydd yn cerdded y mynyddoedd yn ne Cymru eleni.

Llwyddodd yr ymgyrch ariannu torfol Prydeinig a gafodd ei gynnal gan Gyngor Mynydda Prydain ym mis Mai 2016 i godi dros £100,00 ar gyfer gwaith adfer brys ar rai o gopaon mwyaf eiconig Prydain, gyda £12,100 yn cael ei roi i lwybr Neuadd.  Roedd gwir angen gwneud gwaith ar y llwybr gan ei fod mewn perygl o erydu.

Diolch i arian a godwyd gan yr ymgyrch a chyfraniad gan y tirfeddianwyr – y Cwmni Gynnau Anrhydeddus ynghyd â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Llywodraeth Cymru, cafodd cam cyntaf y gwaith ar y rhan uchaf ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2016.  Cafodd y prosiect ei orffen yn gynharach ym mis Mawrth eleni.  Mae llawer o’r llwybr ar lethrau serth ac roedd amodau tywydd yn arbennig o anodd gyda glaw trwm ac eira.  Cafodd 750 tunnell o gerrig eu cludo i’r safle mewn awyren a chafodd dros 1,000 metr o’r llwybr ei adnewyddu.

Dywedodd Ian Rowat, Aelod Eiriolwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol dros Fioamrywiaeth a’r Amgylchedd:

“Mae llwyddiant Ymgyrch Adfer Ein Mynyddoedd yn dangos cymaint mae’r awyr agored yn ei olygu i bobl. Mae pedwar copa’r Bannau Canolog, Pen y Fan, Corn Du, Cribyn a Fan y Big yn croesawu tua 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.  Gall trwsio llwybrau troed poblogaidd gostio hyd at £170 y metr ac mae cefnogaeth y rhai sydd wedi bod yn codi arian a’r cyhoedd yn golygu bod y llwybr mynydd poblogaidd hwn mewn cyflwr da unwaith eto er mwyn i bawb allu ei fwynhau.”

DIWEDD