Adfywio llwybrau cerdded y Mynyddoedd Du

Mae’r llwybrau sy’n rhedeg dros gadwyn y Mynyddoedd Du yn nwyrain Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cael eu hatgyweirio, yn arbennig yn y cyrchfannau poblogaidd – Capel-y-ffin a Dyffryn Llanddewi Nant Hodni.

Mae’r ardal yn boblogaidd gyda cherddwyr o bob oed a gallu ond gall y rhwydwaith cymhleth o lwybrau fod yn anodd i’w croesi. Bu wardeniaid y Parc Cenedlaethol yn brysur yn gosod arwyddbyst newydd i helpu cerddwyr ganfod eu ffordd i lefydd yn cynnwys Bryn Hatterhill ac i’r llwybrau poblogaidd – Ffordd y Bannau a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa sy’n ymestyn ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Gwnaed atgyweiriadau hefyd i’r draeniad ar y llwybrau mynyddig. Mae llwybrau wedi’u treulio yn agored i erydiad gan ddŵr glaw, felly gosodwyd draeniau cerrig yno gan ddefnyddio cerrig o’r mynyddoedd. Gylïau yw’r draeniau, sy’n cael eu cloddio’n llorweddol ar draws y llwybrau cerdded, gan sicrhau bod y dŵr glaw yn llifo trwodd ac nid ar hyd y llwybrau. Cwmni’r brodyr Jones o Ddyffryn Olchon yn uchel i fyny’r gadwyn o fynyddoedd a wnaeth y gwaith, gan osod tri deg o ddraeniau newydd. Mae eu teulu wedi bod yn pori defaid yn y Mynyddoedd Du am genedlaethau ac maen nhw’n awyddus i warchod y tir rhag niwed pellach. Bydd grŵp Gwirfoddol Uwchdir y Parc Cenedlaethol yn gwneud gwaith cynnal a chadw ddwywaith y flwyddyn i sicrhau bod y draeniau newydd yn cael eu clirio.

Dywedodd Mr Edward Evans, Aelod Hyrwyddo Amaethyddiaeth a Rheoli Tir, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, “Gyda’r haf yn agosáu, bydd y rhwydwaith llwybrau ar draws y Parc Cenedlaethol yn dod yn gynyddol brysur. Bydd yr atgyweiriadau hyn a’r arwyddion newydd a ariannwyd gan Raglen Ariannu Cynllun Hawliau Tramwy Llywodraeth Cymru yn caniatáu i ymwelwyr ganfod eu ffordd yn haws ac yn cynorthwyo’r diwydiant ymwelwyr i argymell llwybrau cerdded addas i’w gwesteion”.

DIWEDD