Pobl yn Gyntaf Caerdydd Yn Dathlu Cwblhau Her Bannau Brycheiniog

Mae Pobl yn Gyntaf Caerdydd (Cardiff People First – CPF) yn dathlu wedi iddynt gwblhau Her Bannau Brycheiniog gan gwblhau 10 llwybr cerdded poblogaidd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Trefnodd aelodau’r elusen, sy’n cael ei rhedeg gan ac ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu yng Nghaerdydd, seremoni gyflwyno tystysgrifau ym Mharc Gwledig Craig-y-nos er mwyn dynodi eu cyrhaeddiad gwych a oedd yn cynnwys teithiau cerdded i fyny mynyddoedd uchel y Cribarth a Phen y Fâl.

Dechreuodd Her Bannau Brycheiniog o Brosiect yr Amgylchedd Ysbrydoledig gafodd ei gynnal yn 2015/16 gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru gyda’r bwriad o ddwyn ynghyd fanteision ysbrydoli a lles gweithgareddau ym Mannau Brycheiniog ar gyfer pobl ddifreintiedig. Sicrhaodd Cyfarwyddwr CPF, Ashlea Harris arian gan Wobr Y Loteri Fawr ar gyfer rhaglen Cymru gyfan i gefnogi’r her a ddechreuodd ym mis Mawrth. Ers hynny, mae’r teithiau cerdded sy’n cael eu harwain gan Dîm Cymunedau Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi cynnwys grwpiau Pobl yn Gyntaf lleol eraill gan gynnwys Pobl yn Gyntaf Powys ac mae’r rhai sydd wedi bod yn cyfranogi wedi meithrin cysylltiadau a chyfeillgarwch da ar hyd y daith. Ymwelwyd ag amrywiaeth o safleoedd gan gynnwys Llyn Llan-gors, Caer Pen-y-crug, Pen y Fâl  a chwm Taf Fechan. Roedd y grŵp yn falch o’i gyrhaeddiad gan iddynt fedru cwblhau’r her drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i’r safleoedd cerdded oddi amgylch i’r Parc Cenedlaethol a oedd yn gymorth i ddatblygu sgiliau annibynnol.

Dywedodd Simon Richards, Cadeirydd Pobl yn Gyntaf Caerdydd;

“Mae’r her wedi rhoi’r cyfle i ni fwynhau lleoedd newydd, cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd. Rydym yn gobeithio parhau i gwrdd a chanfod mwy o’r Bannau Brycheiniog ar y cyd.”

Ychwanegodd Julian Atkins, Cyfarwyddwr Cefn gwlad a Rheoli Tir;

“Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn falch iawn i weithio gyda grwpiau tebyg i Pobl yn Gyntaf Caerdydd er mwyn eu cynorthwyo a’u hannog i fentro allan i’r awyr agored a chanfod y dirwedd wych sydd ar drothwy eu drws. Mae wedi bod yn wych i gwrdd â phawb er mwyn clywed eu straeon am y modd y maent wedi cael budd o gyfranogi yn Her Bannau Brycheiniog. Dylai pawb fod yn falch o’r hyn y maent wedi eu cyflawni a gobeithiaf y byddwn yn gallu cynnal her arall yn y dyfodol agos.”

Dywedodd Sally Thomas o Gronfa’r Loteri Fawr: “Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol ar gyfer Pawb yn cael effaith gadarnhaol ledled Cymru. Mae’n wych gweld prosiectau fel hyn yn cael budd o’r rhaglen ac mae’n diolch i’r sawl sy’n chwarae’r loteri ac sy’n gwneud hyn yn bosibl.”

– DIWEDD –