Parti yn y Parc

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gwahodd pawb i ymuno yn eu dathliadau pen blwydd yn 60 oed, yn y Parti yn y Parc ar ddydd Sul 30 Gorffennaf, 11am-3pm. Bydd y parti’n cael ei gynnal mewn dau leoliad: Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ger Libanus a Pharc Gwledig Craig-y-nos. Mae mynediad am ddim, a gwahoddir pawb i ddewis un lleoliad, dod â phicnic efo nhw ac ymuno yn y dathliadau.

Yn y ddau leoliad bydd staff Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau fel y gall pobl gymryd rhan. Mae’r holl weithgareddau am ddim, ond rhaid archebu lle ar y diwrnod wrth y ddesg groeso. Gall plant addurno cacennau bach pen blwydd, a gall teuluoedd ymuno â gweithgareddau celf a chrefft, gan gynnwys addurno baneri a gwneud bathodynnau. Gallwch roi cynnig ar gyfeiriadu yng Nghraig-y-nos neu geogelcio yn y Ganolfan Ymwelwyr, ewch am dro gyda warden neu rhowch gynnig ar chwilota mewn pyllau dŵr. Yng Nghraig-y-nos bydd weiren ‘zip’ ar gyfer plant, ogof gwydr ffibr, gemau i’r teulu ar y ddôl a chyfle i ddysgu mwy am eich ci efo Theresa Toomey, sy’n hyfforddi  ac yn arbenigwr ar ymddygiad cŵn. Yn y Ganolfan Ymwelwyr bydd cyfle i edrych ar sêr yn ystod y dydd trwy delesgopau Solar gyda Chymdeithas Astronomeg Caerdydd a chyfle i ymweld â’r Planetariwm gydag Awyr Dywyll Cymru. Bydd ystafell de Beacons View yn y Ganolfan Ymwelwyr ar agor fel y gall ymwelwyr brynu bwyd, a byddant hefyd yn gwneud barbeciw yn y gerddi. Yng Nghraig-y-nos bydd Bwyty Changing Seasons ar agor ar gyfer bwyd, diodydd a hufen iâ. Bydd ymwelwyr hefyd yn cael cyfle i weld yr arddangosfa o bortreadau ffotograff Pobl Ddiemwnt, sy’n cynnwys pobl o bob rhan o Fannau Brycheiniog sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’r Parc Cenedlaethol.

Dywedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Rydym yn edrych ymlaen at gael croesawu pobl o bell ac agos i’n helpu i nodi pen blwydd arbennig ein Parc Cenedlaethol. Mae hi hefyd yn wythnos y Parciau Cenedlaethol, felly mae’n ddathliad dwbl o bopeth sy’n wych am ein tirwedd gwarchodedig. Y bobl a’r cymunedau sy’n gwneud Bannau Brycheiniog mor arbennig, ac sydd wedi’n helpu i siapio’r parc a’i wneud y lle unigryw ydyw heddiw. Gobeithiwn y bydd cynifer o bobl â phosibl yn ymuno â ni ac rydym yn croesawu pawb i’n Parti yn y Parc y penwythnos hwn.”

Dysgwch fwy am y digwyddiad trwy fynd i www.bannaubrycheiniog.org

 

DIWEDD