Ffair Haf Bannau Brycheiniog!

Bydd Ffair Haf flynyddol Bannau Brycheiniog yn cael ei chynnal ar benwythnos Gŵyl y Banc (26-28 Awst) yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol. Mae’r dathliad, sy’n cael ei gynnal am dri diwrnod, yn uchafbwynt yng nghalendr y Parc Cenedlaethol. Eleni, bydd y ffair yn cynnwys arddangosiad pebyll gan Go Outdoors, ymweliad gan Lonely Planet, ynghyd â cherddoriaeth fyw, stondinau bwyd Cymreig, stondinau crefft a gweithgareddau i blant. Nid oes tâl mynediad i’r ffair, a dim ond £2.50 sydd angen ei dalu i barcio drwy’r dydd – diwrnod perffaith i’r teulu!

Boed glaw neu hindda, bydd y Ffair Haf, sy’n cael ei chynnal yng Nghanolfan Ymwelwyr Libanus, ar agor o 10am tan 5pm bob dydd, a bydd dros 30 o stondinau yn cynnig bwyd, diodydd a chrefftau. Ymhlith y pethau a gynigir dros y penwythnos mae gwinoedd Cymreig, candi-fflos, Caws Eryri, a chynnyrch mêl, yn ogystal â thedi bêrs a wnaed â llaw, peintio a gemwaith serameg. Bydd Barbeciw bendigedig a the hufen ynghyd ag adloniant gan Fand Aberhonddu a Tony Royale. Bydd ardal chwarae meddal i’r plant yn ogystal â gweithgaredd gwneud bathodynnau, pabell weithgareddau a chyfle i ddod wyneb yn wyneb ag adar ysglyfaethus.

Bydd gan Go Outdoors ystod o bebyll i’w harchwilio a’u prynu, ac ar ddydd Sadwrn 26 Awst bydd Lonely Planet yn dod heibio yn rhan o’u taith yn chwilio am Fannau Gwyllt Gorau Prydain; maent wedi gaddo hyrwyddo llyfrau a chynnig rhoddion.

Dywedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae’r Ffair Haf yn ddathliad gwych sy’n ddiwrnod llawn hwyl i’r teulu cyfan. Mae’n denu nifer o bobl leol ac ymwelwyr bob blwyddyn. Yn ogystal â’r stondinau yn y digwyddiad hwn, bydd Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol hefyd yn gweini bwyd, a bydd cyfle i brynu crefftau a wnaed â llaw ym Mannau Brycheiniog.”

 

Y DIWEDD