Ymweliad â Chanolfan Ymwelwyr Bannau Brycheiniog yn creu argraff ar Eluned Morgan AC

Mae’r Aelod Cynulliad Eluned Morgan wedi ymweld â Chanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Y Ganolfan Fynydd – i weld y newidiadau sy’n cael eu gwneud yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol drosti ei hun. Cyfarfu’r Aelod Cynulliad Rhanbarthol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru â Phrif Weithredwr yr Awdurdod, John Cook a’r Cadeirydd, Melanie Doel a gyflwynodd hi i staff y Parc Cenedlaethol sy’n gweithio gyda’r cymunedau a’r busnesau twristiaeth ar draws y Parc Cenedlaethol. Roedd hi’n falch bod y ganolfan ar agor fel arfer a bod gwelliannau wedi cael eu gwneud ar gyfer y dyfodol.
Esboniodd rheolwr a staff ystafelloedd te’r Ganolfan y newidiadau sy’n digwydd i roi rhyddfraint yr ystafelloedd te i gwmni preifat ac y bydd y ddesg wybodaeth yn agor ar gyfer y tymor newydd mewn dau fis. Cyfarfu â’r gydweithfa gelf a chrefft leol Platform 1 sydd wedi meddiannu siop y llawr cyntaf yn ystod cyfnod y Nadolig a misoedd y gaeaf er mwyn gwerthu eu crefftau. Cyflwynwyd yr AS hefyd i’r rhaglen Llysgenhadon – hyfforddiant i fusnesau twristiaeth sy’n para tridiau ar beth sy’n gwneud y Parc mor arbennig – rhan o waith helaeth yr Awdurdod ar dwristiaeth sydd yn sicrhau fod gwybodaeth ar gael i ymwelwyr o ystod eang o ffynonellau. Cafodd glywed hefyd am waith yr Awdurdod gyda Chymuned Pontsticill i wneud y pentref hyd yn oed yn fwy deniadol i Ymwelwyr.
Gwnaeth y newidiadau gryn argraff ar yr Aelod Cynulliad Llafur, a dwedodd;
“Mae’r ffordd y mae’r Ganolfan yn cael ei rhedeg wedi newid yn aruthrol sy’n golygu y gall hi aros ar agor trwy’r flwyddyn. Crefftwyr lleol sy’n gweithio yn y siop ar ôl i’r prif dymor twristiaid ddod i ben. Mae hyn yn golygu y gall y siop barhau ar agor ac mae’n sicrhau y gall ymwelwyr fynd â rhywbeth sy’n eu hatgoffa nhw o’u hymweliad â Bannau Brycheiniog adre gyda nhw. Mae rhaglen y Llysgenhadon yn golygu y gall gweithwyr twristiaeth lleol a gyrwyr tacsi roi mwy o wybodaeth i ymwelwyr am ardal ehangach Bannau Brycheiniog, gan annog ymwelwyr i deithio ychydig yn bellach trwy’r Parc Cenedlaethol gan ledaenu’r lles economaidd.”
Ychwanegodd Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol Mel Doel;
“Roedden ni wrth ein boddau’n croesawu’r Aelod Cynulliad Eluned Morgan i’r ganolfan wych hon. Fel nifer o bobl eraill roedd hi wedi clywed straeon hollol anghywir am ei dyfodol felly roedd hi’n falch i weld y siop gelf a chrefft lewyrchus y mae 12 busnes lleol bellach yn helpu ei rhedeg, a chreodd yr ardal wybodaeth sydd newydd gael ei hadnewyddu gryn argraff arni yn ogystal â newyddion am gynlluniau’r bythol boblogaidd ystafelloedd te yn y dyfodol. Wrth i eleni – blwyddyn ein pen-blwydd yn 60 – fynd yn ei blaen, dwi’n gobeithio y bydd mwy a mwy o bobl yn dilyn Eluned Morgan AC i’r Ganolfan Ymwelwyr yn y bryniau ger Libanus a’u bod nhw’n ymhyfrydu cymaint â hi ar yr hyn sydd yma ac yn croesawu’r newidiadau rydym wedi eu cyflwyno.”
Y DIWEDD