Weatherman Walking yn crwydro’r bryniau

Bydd y gyfres newydd o Weatherman Walking ar BBC1 Cymru yn cynnwys dau o drysorau cudd Bannau Brycheiniog: Bwlch a Llangors. Bydd y bennod, a fydd yn cael ei darlledu nos Wener, 20 Ionawr am 7:30pm, yn dilyn Derek Brockway wrth iddo gerdded ar hyd Bwlch with Solitude; llwybr a grëwyd yn arbennig ar gyfer y rhaglen, gydag Emma Harrison, tywysydd cerdded lleol a pherchennog The Star Bunkhouse ym Mwlch.

Mae rhaglen deledu boblogaidd Derek y Dyn Tywydd yn mynd ag e o gwmpas Cymru gyfan a bydd cyfres 10 yn arddangos sawl taith gerdded newydd. Ffilmiwyd y bennod yn ystod yr haf diwethaf ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a gwelwn Derek yn gwisgo ei esgidiau cerdded ar gyfer taith gerdded egnïol saith milltir o hyd o gwmpas y pentrefi lleol a’r ardal wledig gyfagos. Cawn weld Bwlch a Chwmdu, yn ogystal â dyffryn heddychlon Rhiangoll, a Mynydd Llangors ar ymyl orllewinol y Mynyddoedd Duon. Mae Derek hefyd yn ymchwilio i chwedlau Llyn Llangors, y llyn naturiol mwyaf yn Ne Cymru ac yn dysgu am fywyd y Parchedig Thomas Price, ysgolhaig Cymreig, hynafiaethydd a ficer Cwmdu yn y 1800au.

Dwedodd Emma Harrison, sy’n ymddangos ar y sgrin gyda Derek, wrthon ni; “Roedd mynd ar daith gerdded gyda dyn tywydd enwocaf Cymru yn antur fawr, cafodd Derek ei hudo gan brydferthwch Bwlch a Llangors a’r golygfeydd panoramig o’r Mynyddoedd Duon a’r Bannau Canolog. Crëwyd taith The Bwlch with Solitude yn arbennig i arddangos ysblander yr ardal, sy’n gudd o’r prif fynyddoedd. Bydd y llwybr yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan fel y gall pawb gerdded ar ei hyd ar ôl ei weld ar y teledu! Am fwy o wybodaeth ac i lawrlwytho’r llwybr ewch i aroundllangorselake.co.uk.”

Er mwyn dathlu’r daith newydd mae Cynghrair Wledig Llangors a Bwlch; grŵp o bobl a busnesau lleol sydd wrth eu boddau’n rhannu’r ardal maen nhw’n ei charu ac yn byw ynddi, yn rhedeg cystadleuaeth ar Facebook. Bydd un enillydd lwcus yn ennill Penwythnos Antur yn Ne Cymru, sy’n cynnwys llety, basged o gynnyrch Cymreig a dewis o ddau weithgaredd gan gynnwys taith dywys i feiciau neu fyrddio padl ar Lyn Llangors. Caiff enillwyr hefyd fynd ar daith tu ôl i lenni Weatherman Walking gydag Emma Harrison. Dilynwch @aroundllangorselake am fwy o fanylion.

Y DIWEDD

Nodyn i Olygyddion
Am fwy o fanylion cysylltwch â: Samantha Wheeler – samrosewheeler@gmail.com / 07815477749