Gwirfoddolwyr Bannau Brycheiniog yn dathlu ennill dwy wobr yng Ngwobrau Parciau Cenedlaethol y DU

Mae enillwyr Gwobrau Gwirfoddolwyr Parciau Cenedlaethol y DU wedi cael eu cyhoeddi ac mae’n ddathliad dwbl i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Enillodd y gwirfoddolwr Jo Minihane y categori Unigol ac roedd Grŵp Llwybr Troed y Gymuned Nepalaidd yn enillwyr categori’r Grŵp. Mae’r gwobrau blynyddol yn cydnabod a diolch i’r holl wirfoddolwyr sy’n gweithio mor galed, yn helpu amddiffyn tirwedd arbennig 15 Parc Cenedlaethol Prydain bob blwyddyn.

Mae enillydd y wobr Unigol, Jo Minihane, wedi bod yn gwirfoddoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog er rhyw 18 mis. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae Jo wedi cyflawni ystod eang o swyddogaethau gwirfoddol gan gynnwys gwaith ymarferol yn atgyweirio llwybr troed a chynnal a chadw gerddi yn ogystal ag arwain prosiect gyda grŵp eco MIND lleol yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol. Ychwanegodd: “Dwi’n gwirfoddoli hyd at saith diwrnod yr wythnos ond nid gwaith yw hyn i mi. Dwi’n mwynhau’r profiadau newydd a’r prosiectau amrywiol yn aruthrol a dwi wastad yn chwilio am gyfleoedd newydd. Mae pob diwrnod yn wahanol a dwi wedi dysgu cymaint. Mae’r pobl dwi’n cwrdd â nhw yn rhyfeddol.”
Mae Jo yn enghraifft wych o fuddiannau anhygoel gwirfoddoli ac mae e hefyd yn ennill gwerth £100 o offer awyr agored.

Cafodd enillwyr gwobr y Grŵp, Grŵp Llwybr Troed y Gymuned Nepalaidd eu cydnabod am y gwaith anhygoel y gwnaethant yn Aberhonddu. Mae’r llwybr troed y maent wedi ei adnewyddu, sydd bellach wedi ei enwi’n ‘Llwybr y Gyrca’ yn swyddogol, yn arwain o Brom Aberhonddu i’r Fenni Fach. Cafodd ei adnewyddu dros gyfnod o chwe mis gan gymuned y Gyrcas a oedd eisiau gwneud rhywbeth i ymateb i’r haelioni aruthrol a ddangoswyd gan bobl Aberhonddu yn dilyn y daeargryn a ddinistriodd Nepal.

Mae’r cyflwynydd teledu Julia Bradbury wedi bod yn feirniad ar y Gwobrau Gwirfoddolwyr ers y cychwyn ac mae hi’n adnabyddus am ei hoffter a’i chefnogaeth o fywyd awyr agored – dwedodd;
“O ganlyniad i adnewyddu llwybr troed ar hyd yr afon Wysg, mae Cymuned Nepalaidd Aberhonddu wedi gweithio i sicrhau bod yr ardal unwaith eto’n hawdd i’w chyrchu i bobl leol ac i ymwelwyr. Dyma gymuned aml-ddiwylliannol ar ei gorau – mae hon yn enghraifft ysbrydoledig o gymuned sy’n cydweithio ac yn llwyddo i gynnal a chadw ansawdd eu hamgylchedd er budd pawb. Dwi gwybod y bydd nifer o bobl eraill yn cytuno bod y gwaith a wnaed yma yn hollol wych.”

Ymatebodd Gurung Guptaman, Cydlynydd Gwirfoddol Cymdeithas Nepalaidd Aberhonddu; “Mae’n fraint ac yn anrhydedd i mi a’r gymuned Nepalaidd bod ein gwaith caled wedi cael ei gydnabod gyda gwobr o’r fath. Dechreuon ni’n prosiect gydag amcan syml, sef ein helpu i ymdoddi i’r gymuned leol. Wnaethon ni fyth ddychmygu y bydden ni’n derbyn y fath gydnabyddiaeth na’n ennill gwobrau. Dwi’n sicr y bydd y gymuned leol wrth eu boddau â’r newyddion a bydd hyn yn rhoi hwb pellach inni gyflawni prosiectau mwy a gwell yn y dyfodol.”

Ynghyd â’r wobr bydd Grŵp Llwybr Troed y Gymuned Nepalaidd yn derbyn bwrsariaeth o £1000 tuag at barhau’r gwaith gwych ar lwybrau troed eraill yn Aberhonddu.

Ychwanegodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;
“Mae Gwobrau Gwirfoddolwyr Parciau Cenedlaethol y DU yn amlygu’r pethau anhygoel mae gwirfoddolwyr o gwmpas y DU yn eu gwneud i help gofalu am bob Lle i Enaid Gael Llonydd ym Mhrydain. Mae’r ffaith bod gwirfoddolwyr o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cael eu henwebu ac wedi ennill dwy wobr yn wych a dylent fod yn falch iawn. Ar ran y Parc Cenedlaethol dwi’n llongyfarch Jo Minihane a Grŵp Llwybr Troed Y Gymuned Nepalaidd am eu gwaith rhagorol.”

Am fwy o wybodaeth am wirfoddoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ewch i www.beacons-npa.gov.uk/the-authority/volunteering/

Y DIWEDD