Galw am Wirfoddolwyr i helpu i drwsio mynyddoedd

Mae Gwirfoddolwyr Ucheldir Parc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog yn edrych am recriwtiaid newydd i ymuno â’u tîm gweithgar. Mae angen mwy o help gan y bydd y grŵp yn ymgymryd â gwaith cadwraeth pwysig a gwaith atgyweirio pellach i lwybrau cerdded yn y Mynyddoedd Duon yn ystod y flwyddyn newydd.

Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn ymweld â’r Parc Cenedlaethol i fwynhau’r awyr agored, crwydro a dringo’r mynyddoedd. Mae’r holl draed hynny yn gadael eu hôl a bryd hynny rhaid i Wirfoddolwyr Llwybr Ucheldir gamu i’r adwy. Gan weithio ychydig ddyddiau bob wythnos mae’r gwirfoddolwyr yn ymgymryd ag atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw ar lwybrau cerdded ar draws y Bannau Canolog a’r Mynyddoedd Duon. Bydd ychwanegu dau slot ychwanegol ar Ddyddiau Mercher yn 2017 yn golygu bod modd i’r grŵp gynnal gwaith cadwraeth ac ecoleg pwysig i helpu i adfer cynefinoedd o bwysigrwydd rhyngwladol o fewn y Mynyddoedd Duon, ynghyd â gwaith i wella mynediad.

Jason Rees, Swyddog Cadwraeth Cynorthwyol gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n rheoli’r gwirfoddolwyr a dywedodd wrthym: “Mae Gwirfoddolwyr yr Ucheldir yn chwarae rhan allweddol wrth ofalu am fryniau a mynyddoedd y Parc Cenedlaethol. Maen nhw’n gweithio trwy gydol y flwyddyn, ym mhob tywydd, i sicrhau bod y llwybrau mewn cyflwr da a bod y difrod i’r tirlun yn cael ei isafu. Mae’n waith caled ond yn weithgaredd cymdeithasol gwych sy’n rhoi boddhad mawr, gyda hyfforddiant yn cael ei roi ynghyd â chyfle i ymgymryd ag ardystiad achrededig mewn cymorth cyntaf a defnydd diogel ar beiriannau torri gwrych.”

Ychwanegodd Cadeirydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Mel Doel: “Bob blwyddyn mae ein gwirfoddolwyr yn mynd i weithio mewn lleoliadau uchel ac unig o amgylch y Parc, yn 2016 yn unig fe wnaethant gyfrannu 3420 awr o’u hamser. Maen nhw’n ymrwymedig i warchod y Parc ar rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu gwaith caled. Eleni rydym yn gofyn am gymorth pellach i ofalu am y Mynyddoedd Duon godidog yn nwyrain y Parc, ble y mae angen mwy o ddwylo i weithio ar warchod cynefin bregus.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r tîm a bod gennych lefel dda o ffitrwydd corfforol ac yn barod i fynd allan i’r awyr agored ym mhob tywydd, yna cysylltwch â’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr, Jackie Thomas yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. E-bost: jackie.thomas@beacons-npa.gov.uk neu ewch i www.bannaubrycheiniog.org/yr-awdurdod/volunteering