Cynllunwyr Chwarae ‘Minecraft’

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yng Nghymru wedi penderfynu mynd â’i bolisïau cynllunio i lefel newydd hollol, gan lansio’i hun i’r gofod seibr. Mae digon o feirniaid yn barod i leisio barn ar gynllunio yn y byd go iawn, ond penderfynodd yr Awdurdod fynd i’r afael â phethau drwy fentro i faes chwarae gemau ar lein, gan wynebu’r perygl o sombïod, a ble gall gwrthwynebwyr ymosod arnoch chi â chleddyf a hyd yn oed eich ffrwydro, yn hytrach nag ysgrifennu cwyn.

Dydy hyn ddim yn amharu dim ar dîm Polisi’r Parc Cenedlaethol, sydd wedi cydweithio ag adran TG yr Awdurdod ar brosiect peilot i gynhyrchu model rhithwir o dref enwog y Gelli Gandryll gyda gêm boblogaidd ar lein Microsoft, er mwyn denu’r gymuned leol wrth baratoi cynllun ar gyfer datblygu’r dref.

Mae arbenigwr mapio’r Awdurdod wedi ail-greu isadeiledd y dref ond fe ofynodd yr Awdurdod i’r arbenigwyr er mwyn gwneud i’r siopau a’r tai edrych fel y byd go iawn – gan weithio gyda bachgen ysgol oedd yn gweithio gyda’r Awdurdod ar brofiad gwaith i ddechrau, bellach recriwtiwyd grŵp o bobl ifanc 14 a 15 oed, ac mae pob un yn gweithio’n brysur ar greu’r Gelli rithwir. Mae’r Hay Festival Scribblers, grŵp o awduron ifanc a selogion Minecraft wedi bod wrthi’n ddiwyd yn trawsnewid ‘Y Gelli Minecraft’ i ddangos blaenau siopau fel siop lyfrau enwog Richard Booth a Pharlwr Hufen Iâ Shepherds (gweler y lluniau).

Dyma oedd gan Helen Lucoq o’r adran gynllunio, oedd yn aelod o’r tîm gwreiddiol a ddatblygodd y syniad o ddefnyddio’r byd tebyg i Lego cyfrifiadurol er mwyn helpu pobl ifanc i ddeall byd cynllunio: “Yn y gorffennol mae hi wedi bod yn anodd denu cymunedau i ymroi’n llwyr i broses ysgrifennu cynllun. Mae hi’n dipyn o her i ddychmygu’r problemau ac yna meddwl amdanyn nhw ar bob cam o’r broses nes cyrraedd ateb, ac oherwydd hynny, bydd y dadleuon ynglŷn â’r hyn sydd orau ar gyfer ardal yn dueddol o ddigwydd rhwng pobl broffesiynol ym maes cynllunio, yn gynllunwyr y cyngor ac yn ddatblygwyr – pobl sy’n gwybod sut i siarad ‘iaith cynllunio’. Mae’n eironig fod byd rhithwir Minecraft yn gallu tro cynllunio’n beth go iawn i genedlaethau’r dyfodol.”

Yn ôl arbenigwr mapio’r Awdurdod: “Rydw i wedi gorfod dysgu set newydd o sgiliau er mwyn adeiladu’r Gelli yn Minecraft, ond mae wedi bod yn eithriadol o ddiddorol – mae’n anodd credu cystal y mae’r plant hyn ar drafod y byd ar lein. Yr her fwyaf oedd ceisio dod o hyd i ffyrdd o helpu defnyddwyr i ddeall cynllunio drwy ddefnyddio parthau gweledol sy’n dangos beth allai gael ei adeiladu ble o dan y Cynllun Datblygu Lleol. Mae’r caeau yn llawn blodau o liwiau gwahanol yn dangos pa ardaloedd fydd ar gael ar gyfer codi tai neu ddefnydd masnachol.”

Dywedodd Finn, aelod o Scribblers – Gŵyl y Gelli Gandryll, 13 oed, “I ddechrau, roeddwn i wrth fy modd gyda’r gallu o fod yn gallu ffrwydro pethau yn y Gelli, ond nawr mod i wedi treulio cymaint o amser yn ei wneud yn ddeniadol, dydw i ddim eisiau’i ffrwydro – wel, dim fy narnau i, beth bynnag! Mae’n gwneud i rywun feddwl yn ofalus wrth geisio gweld sut mae ffitio’r tai yn y gofod sydd ar gael iddyn nhw. Mae’n bwysig hefyd eu bod nhw’n lleoedd braf i fyw ynddyn nhw. Mae’r gwaith paratoi hwn yn mynd yn fwy a mwy diddorol gydag amser. Mae’n hynod ddiddorol!”

-DIWEDD-