Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cytuno ar gynigion newydd i sicrhau dyfodol Canolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cytuno ar gynnig i sicrhau dyfodol Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn y bryniau tu allan i Aberhonddu. Daeth y cynigion, a gytunwyd yng nghyfarfod dydd Gwener, o weithgor Aelodau/Swyddogion a gafodd ei sefydlu y llynedd, mewn ymateb i doriadau sylweddol yn y gyllideb gan Lywodraeth Cymru. Bu’r gweithgor yn ystyried beth oedd orau i’r Ganolfan – sy’n cael ei galw’n Ganolfan Fynydd yn lleol. Mae’r cynllun a ystyriwyd gan yr aelodau yn cynnig model mwy masnachol i sicrhau dyfodol y Ganolfan. Bydd y cynllun yn golygu bydd ymwelwyr yn parhau i fwynhau canolfan ymwelwyr gydag amwynderau yn cynnwys toiledau, maes parcio, caffi, siop dymhorol a man gwybodaeth.

Bydd yna newidiadau yn rheolaeth y caffi a’r ystafell de – byddant ar gael fel masnachfraint. Bydd masnachfreinio’r caffi yn cynnig model mwy cynaliadwy a chyfle masnachol newydd yn yr ardal – dylai unrhyw fusnes sydd â diddordeb gysylltu ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol a fydd yn dilyn proses gaffael. Disgwylir i’r staff arlwyo gadw eu hamodau a thelerau a symud i’r fasnachfraint newydd.

Cytunodd yr aelodau i gael staff yn y ganolfan wybodaeth drwy’r tymor prysur gyda man gwybodaeth heb ei staffio ym misoedd y gaeaf. Gan fod ymwelwyr a phreswylwyr y dyddiau hyn yn cyrchu gwybodaeth gyda dulliau amgen, bydd y wefan sy’n cael ei rhedeg gan y bartneriaeth www.breconbeacons.org yn cael ei chadw’n gyfredol. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf (Mawrth 2015 i Ebrill 2016) derbyniodd y safle 597 962 ymwelydd.

Dywedodd Andrew Fryer, Cadeirydd Bwrdd Twristiaeth Bannau Brycheiniog:

“Rydym yn cefnogi’r newidiadau hyn a chredwn y byddant yn galluogi Awdurdod y Parc Cenedlaethol i barhau i gymryd rhan actif mewn hyrwyddo’r Parc i’n hymwelwyr.”

Bydd yr Awdurdod yn gweithio gyda’r staff gwybodaeth presennol i edrych ar gyfleoedd sydd ar gael i gadw diswyddiadau i’r nifer lleiaf.

Roedd y cynnig yn cynnwys rhaglen o ddigwyddiadau – mae’r Awdurdod eisoes yn gweithio ar sicrhau cyllid i’r ŵyl fwyd yn Hydref 2016. Cytunwyd ar adolygu’r rhaglen ddigwyddiadau i sicrhau ei bod yn darparu beth mae’r ymwelwyr am ei weld.

Ychwanegodd Melanie Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Gobeithio bydd y penderfyniadau a wnaethom yn gosod sylfeini ar gyfer Canolfan Ymwelwyr gryfach, sy’n fwy masnachol, i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gan roi i’n hymwelwyr brofiadau gwych a’u cynorthwyo i ddarganfod eu dymuniadau wrth archwilio’r Parc Cenedlaethol. Rwy’n croesawu’r arweiniad a’r gefnogaeth a gafwyd o’r gymuned fusnes leol wrth i ni ymwneud â’r broses hir hon a’u cefnogaeth i’r penderfyniadau a wnaethom. Rydym yn cyfarfod â staff a chynrychiolwyr undeb i sicrhau bod ganddynt yr holl wybodaeth.”

-Diwedd-