Y Parc Cenedlaethol yn croesawu Aelodau Awdurdod newydd

Rhoddodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog groeso i dri aelod newydd, sef, Ms Deborah Perkin, Mr James Marsden a Mr Julian Stedman. Croesawyd hwy gan Aelodau Presennol yr Awdurdod yng nghyfarfod y Parc Cenedlaethol ar 8 Ebrill, a byddan nhw’n awr yn parhau gyda’r cwrs sefydlu ar gyfer eu rôl ar gorff llywodraethol Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Ffotograff © breconbeaconsnationalparkauthority Capsiwn: Dirprwy Gadeirydd, Y Cynghorydd Glynog Davies (dde) gyda’r aelodau newydd (o’r chwith) Julian Stedman, James Marsden a Deborah Perkin.

Ffotograff © breconbeaconsnationalparkauthority
Capsiwn: Dirprwy Gadeirydd, Y Cynghorydd Glynog Davies (dde) gyda’r aelodau newydd (o’r chwith) Julian Stedman, James Marsden a Deborah Perkin.

Bydd yr aelodau newydd yn cymryd lle Mrs Julie James a Mr Martin Buckle, ar derfyn eu tymor llawn, a Ms Carys Howell, a adawodd yn 2014 (ni chafwyd neb yn ei lle’r adeg honno). Byddant yn ymuno ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol,  sy’n cynnwys 24 aelod sy’n gwneud yr holl benderfyniadau allweddol ynglŷn â chyllidebau a pholisïau.  Byddant hefyd ar y Pwyllgor Cynllunio a Hawliau Tramwy.

Dewiswyd yr aelodau newydd gan banel ar ran Llywodraeth Cymru drwy gystadleuaeth agored, a dônt o ystod o gefndiroedd gwahanol – pob un yn dod â’i brofiad gwerthfawr i wneud cyfraniad yn ei rôl newydd:

Mae Ms Perkin yn wneuthurwr ffilmiau dogfen, sydd wedi ennill sawl gwobr. Gweithiodd i’r BBC am flynyddoedd mewn gwahanol swyddi, yn gynhyrchydd/gyfarwyddwr.  Erbyn hyn, mae’n rheoli ei chwmni cynhyrchu ei hun. Mae Ms Perkin hefyd yn rhoi o’i hamser i wneud gwaith gwirfoddol ym myd addysg a chydraddoldeb. Mae gan Mr Marsden gymwysterau mewn Cynllunio Gwlad a Thref.  Gweithiodd i Natural England ym maes rheoli tir ac amaeth-amgylchedd , ac mae ganddo ddiddordeb personol yng nghadwraeth y môr. Mae gan Mr Stedman o Grucywel gymwysterau mewn pensaernïaeth a chynllunio amgylcheddol, ac wedi gweithio fel pensaer/cynllunydd.  Ers 2011, mae’n berchen, ac yn rhedeg busnes  gwely a brecwast, ac yn un o Lysgenhadon Twristiaeth yr Awdurdod.

Dywedodd Melanie Doel, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol, “Ar ran yr aelodau presennol, y staff, a minnau, buaswn yn hoffi estyn croeso i aelodau newydd yr Awdurdod. Mae ganddyn nhw rôl bwysig i’w chyflawni yn Awdurdod y Parc Cenedlaethol wrth wneud penderfyniadau.  O’u cyfarfod cyntaf un, maen nhw wedi dangos eu brwdfrydedd a’u hymglymiad i’r dasg bwysig o amddiffyn y dirwedd unigryw hon.”

-DIWEDD-

Nodiadau i’r Golygyddion

Ffotograff © breconbeaconsnationalparkauthority
Capsiwn: Dirprwy Gadeirydd, Y Cynghorydd Glynog Davies (dde) gyda’r aelodau newydd (o’r chwith) Julian Stedman, James Marsden a Deborah Perkin.