Pont newydd i Gofilon

Wythnos ddiwethaf, agorwyd pont newydd yn swyddogol yng Nghofilon ar y llwybr cerdded a beicio poblogaidd sy’n cysylltu’r pentref gyda Llan-ffwyst. Ymunodd Margaret Underwood, Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog â’r dathliadau ar Ddydd Iau, 5 Mai, i dorri’r rhuban. Roedd cerddwyr, beicwyr a Wardeniaid y Parc Cenedlaethol yno hefyd.  

IMG_6302

Ffotograff © breconbeaconsnationalparkauthority Pennawd: Y rhuban yn cael ei dorri a’r bont newydd yn cael ei hagor yn swyddogol yng Nghofilon

 

Gosodwyd y bont wreiddiol, uwchben y ffordd B4246 o Gofilon i Llan-ffwyst yn 1994 ar yr hyn arferai fod yn gyswllt rheilffordd rhwng Y Fenni a Brynmawr. Ar ôl 22 mlynedd, roedd y strwythur pren ffrâm A wedi dod i ddiwedd ei oes.  Mae yno nawr ffrâm bren sy’n gryfach o lawer y bydd cerddwyr a beicwyr yn gallu ei defnyddio i groesi’n ddiogel am flynyddoedd i ddod.  Daeth yr arian i’r gwaith ar ffurf Grant Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Llywodraeth Cymru sydd dan arolygaeth Cyfoeth Naturiol Cymru. Daeth arian pellach hefyd o Grant Mynediad Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Mrs Underwood, “Mae’r bont hon yn rhan o lwybr cerdded a beicio hynod o boblogaidd sy’n cael ei ddefnyddio gan y gymuned a hefyd gan ymwelwyr i’r ardal, ac mae rhai o’r defnyddwyr hynny wedi ymuno â ni yma heddiw. Mae’n wych gweld y gwirfoddolwyr sy’n gweithio i sicrhau bod y llwybr hwn yn lân a thaclus drwy’r flwyddyn gyfan, ac ar ran yr Awdurdod, hoffwn ddiolch iddynt. Rydym yn gobeithio y bydd pawb yn parhau i fwynhau’r llwybr hwn, ac rwy’n falch cael torri’r rhuban a chyhoeddi’n swyddogol bod y bont hon ar agor unwaith eto  –  mae’r llwybr yn dychwelyd i’r gymuned.”

Ychwanegodd Cath Barton, Cadeirydd ‘Grŵp Cerdded am Iechyd Y Fenni’ a ddaeth i’r agoriad gydag aelodau o’r grŵp, “Mae’r bont newydd yn wych gan ei bod yn dangos bod y llwybr hwn yn derbyn gofal; mae’n gwneud y llwybr yn ddeniadol ac yn annog pobl i fynd allan a cherdded drosti. Mae’r llwybr hwn yn arbennig o bwysig i’n grŵp ni, gan ei fod yn hygyrch i bawb, ac yn gadael i bawb ymuno â ni i fwynhau’r manteision cymdeithasol ac iechyd ehangach o fod allan yng nghefn gwlad.”

-DIWEDD-