Galw am gymorth i Adfer Ein Mynyddoedd

Gyda dim ond 6 diwrnod i fynd, mae Cyngor Mynydda Prydeinig (CMP) ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn galw ar y cyhoedd i ddangos eu bod nhw’n pryderu am y dirwedd maen nhw’n ei garu a’i ddefnyddio, drwy addo arian i Ymgyrch Adfer Ein Mynyddoedd ar www.crowdfunder.co.uk/mendourmountains. Drwy gydweithio gydag wyth parc cenedlaethol, mae’r ymgyrch ariannu torfol yn gwneud un hwb terfynol i godi £100,000 erbyn Dydd Llun 9 Mai, er mwyn gallu gweithredu wyth prosiect adfer brys ar rai o gopaon mwyaf eiconig Prydain – mae un ohonyn nhw yn ein hymyl ni yng Nghanol y Bannau.

Mend our Mountains - donate today to repair the popular horseshoe walking route above the Neuadd Reservoir - photo credit Nigel Forster

Mae llwybr pedol uwchben Cronfa Ddŵr Neuadd, yn rhan o daith gylchol odidog sy’n cynnwys Pen y Fan, y copa uchaf yn ne Prydain.  Ond mae’r llwybr wedi dirywio’n arw dros yr 20 mlynedd diwethaf.  Mae atgyweirio llwybrau yn y rhannau mwyaf anghysbell ym Mannau Brycheiniog yn gallu costio hyd at £170 y metr.

Melanie Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae’r ucheldiroedd yn bwysig iawn i ymwelwyr a thrigolion y Parc Cenedlaethol, o ran antur ac adloniant mwy hamddenol, ond maen nhw’n cynnig heriau anodd iawn o ran rheoli’r tir – nid yn unig o ran gwarchod y mawnogydd brau sy’n holl bwysig, ond hefyd y rhwydwaith o lwybrau sy’n eu croesi.  Mae’r cynllun hwn yn gyfle ardderchog i’r rheiny sy’n caru’r bryniau, i roi rhywbeth yn ôl, fel y gall cenedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.”

Ers dechrau’r ymgyrch ariannu torfol, mae dros 1,000 wedi ymrwymo i roi arian, ac mae swm o dros £55,000 wedi ei godi’n barod, i atgyweirio llwybrau sy’ wedi eu difrodi ar gopaon mwyaf poblogaidd Prydain. Mae cymaint o brofiadau gwych yn eich aros fel ‘gwobr’ am roi cyfraniad i’n hymgyrch ariannu torfol – gwylio’r haul yn machlud o Eryri, dringo am dymor cyfan gyda mentor, neu reid mewn hofrennydd dros ddyffrynnoedd Swydd Efrog.

Meddai Carey Davies, swyddog cerdded bryniau CMP: “Mae’r ymateb hyd yn hyn i Adfer Ein Mynyddoedd wedi dangos fod cerddwyr, dringwyr a phobl awyr agored brwdfrydig yn pryderu’n fawr am warchod tirweddau’r mynyddoedd.    Mae’n adeg heriol i’r cyrff sy’n ‘gofalu’ am rai o’n tirweddau pwysicaf. Mae’r cynnydd mawr yn nifer yr ymwelwyr, y cyllidebau llai, yn ogystal â difrod eang y llifogydd diweddar, yn golygu bod awdurdodau sawl parc cenedlaethol yn ymdrechu i gynnal her barhaus yn erbyn erydu.  Ond rydyn ni am anfon neges mor eglur â phosib – ein bod ni’n barod i wneud popeth o fewn ein gallu i atal erydu mynydd.  Ein gwaddol ni ydy’r bryniau yma, i’w dringo a gofalu amdanyn nhw.  Mwyaf yn y byd o arian y codwn ni yn yr ymgyrch, mwyaf cadarn fydd y neges hon.”

Meddai’r cyflwynydd teledu Julia Bradbury: “Mae’n hawdd cymryd y llwybrau o dan ein traed yn ganiataol, pan fyddwn ni’r cerdded ar y bryniau .  Eto’r llwybrau troed hyn ydy prif wythiennau ein bryniau, ac yn ein galluogi ni i droedio’r mynyddoedd yn gynaliadwy. Rydw i wedi bod mor ffodus i gael cerdded ar hyd nifer o lwybrau sydd wedi llunio rhan o’n tirweddau am gannoedd o flynyddoedd, ac sydd angen ein cymorth erbyn hyn. Rydw i’n cefnogi ymgyrch ariannu torfol Adfer Ein Mynyddoedd fel y gall mwy o bobl, yn cynnwys teuluoedd a phobl ifanc, fwynhau ein bryniau a mynyddoedd yn y dyfodol.  Os ydych chi’n mwynhau cerdded yn ein parciau cenedlaethol, ceisiwch ein cefnogi os gwelwch yn dda.”

I ddangos eich cefnogaeth, ac i gyfrannu ewch i www.crowdfunder.co.uk/mendourmountains

DIWEDD

Nodiadau i’r Golygyddion

Ffotograff © Nigel Forster

Capsiwn: Cyfrannwch heddiw, a helpu i adfer llwybr pedol uwchben Cronfa Ddŵr Neuadd