Adrodd Hanes Aberhonddu ym Mrwydr Agincourt yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu

Mae hanes Aberhonddu ym mrwydr Agincourt wedi dod yn fyw yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, ac mae’n coffáu’r cyfraniad pwysig wnaeth gwŷr Sir Frycheiniog at y frwydr enwog a ymladdwyd yn Ffrainc 600 mlynedd yn ôl. Drwy gyd-weithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae dehongliad cyffrous newydd wedi ei greu – cewch hyd yn oed weld Rhith-Saethydd o Agincourt yno.

Ffotograff © jamcreativestudios Capsiwn: Saethydd Agincourt yn dod yn fyw yn yr Eglwys Gadeiriol

Ffotograff © jamcreativestudios
Capsiwn: Saethydd Agincourt yn dod yn fyw yn yr Eglwys Gadeiriol

Mae’r prosiect hwn yn rhan o brosiect ehangach Etifeddiaeth Agincourt 600 Cymru, gyda chymorth Cronfa Goffáu Agincourt 600, i gofio hanes gwŷr lleol fu’n ymladd yn y frwydr, ac i ddangos arwyddocâd y cyfraniad sylweddol wnaeth y rhain i hanes Agincourt. Mae’r taflenni newydd sbon, a’r padlau-gwybodaeth llaw ar gael erbyn hyn yn yr Eglwys Gadeiriol, i ymwelwyr gael mynd ar daith eu hunain, a darganfod y straeon y tu ôl i’r mannau coffáu.

Dyna i chi ffenestr wydr lliw prydferth, fry uwchben llawr yr Eglwys Gadeiriol, sy’n coffáu Roger Vaughan, uchelwr Cymreig o Dretŵr, a fu farw ar faes y gad yn 1415. Yna’r garreg hogi, yr honnir iddi gael ei defnyddio i hogi saethau’r saethyddion yn y frwydr.  Gall ymwelwyr hefyd weld enwau Saethyddion Aberhonddu a aeth i’r frwydr, ar gopi o indentur (cytundeb oedd yn rhestru’r dynion a’r bechgyn a anfonwyd i’r gad).  Gellir hefyd wrando ar y rhith-saethydd, yn siarad am y frwydr sydd i ddod wrth iddo baratoi ei fwa a saeth.

Meddai Suzanna Jones, Swyddog Dehongli Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, “Chwaraeodd Aberhonddu ran allweddol ym Mrwydr Agincourt, ac mae hi’n un o wyth safle ar draws Sir Frycheiniog, Sir Fynwy a Fforest y Ddena, sy’n rhan o ‘Daith Agincourt Cymru’.  Roedden ni am ddathlu’r ffaith hon drwy adrodd yr hanesion i bobl leol ac ymwelwyr, ac roedden ni wrth ein bodd yn cael cyfle i ddehongli’r casgliad sydd yma’n barod yn yr Eglwys Gadeiriol.  Bydd pawb wrth eu bodd yn cwrdd â’r saethydd, sy’n dod yn fyw drwy ipad – yn enwedig y bobl ifanc!”

Ychwanegodd Deon Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, y Deon Shackerley, “Rydyn ni mor falch o fod yn ymwneud â’r prosiect hwn, a byddwn yn edrych ymlaen at groesawu mwy o ymwelwyr chwilfrydig sydd am ddarganfod mwy am yr Eglwys Gadeiriol ei hun, a’i chysylltiadau hanesyddol â brwydr Agincourt.”

-DIWEDD-