Gyrwyr oddi ar y ffordd yn cael eu targedu yn y Parc

Mae’r Awdurdod Parc Cenedlaethol a heddlu dwy ardal wedi dod at ei gilydd i dargedu gyrwyr oddi ar y ffordd anghyfreithlon ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cafwyd cyrchoedd ym mis Mawrth lle’r oedd beicwyr yn cael eu stopio yn eu hunfan – roedd llawer yn gadael y Parc Cenedlaethol gyda rhybudd, a rhai’n aros am gael eu herlyn.

A motorbike seized for illegal off-roading, photo shows the damage the activity causes to the landscape.

Beic modur yn cael ei atafaelu am yrru oddi ar y ffordd. Y llun yn dangos y difrod wnaed i’r dirwedd gan y gyrrwr.

 

Mae Wardeniaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Heddlu Dyfed Powys, Gwent a Heddlu West Mercia wedi bod yn gweithredu er mwyn mynd i’r afael â gyrru oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon. Mae beiciau cwad, cerbydau 4×4 a beiciau modur yn broblem yn y Parc Cenedlaethol. Gall ardal wledig agored gyda thraciau ar dir glas edrych yn le chwarae delfrydol i gerbydau oddi ar y ffordd, ond mae gyrru ar dir comin a phreifat heb ganiatâd yn drosedd.  Mae’n achosi difrod ac yn tarfu ar dawelwch cefn gwlad, ac mae Wardeniaid y Parc Cenedlaethol yn gweithio’n galed bob blwyddyn gyda’r heddlu lleol i geisio trosglwyddo’r neges hon.

Arestiwyd nifer o yrwyr gan yr heddlu yn Chwarel Trefil yn nwyrain y Parc, ac mae perchennog 4×4 a gafodd ei ddal yn gyrru oddi ar y ffordd wedi ei erlyn yn llwyddiannus, ei ddirwyo, a’i orfodi i dalu ffioedd llys. Yn yr achos penodol hwn, roedd yr unigolyn wedi ei rybuddio yn ystod cyrch blaenorol. Os bydd rhywun yn cael y rhybudd hwn (a elwir yn Adran 59), a chael ei ddal yr ail waith yn y 12 mis canlynol, mae’n golygu y bydd ei gerbyd yn cael ei atafaelu, efallai ei ddinistrio a byddan nhw’n cael eu dirwyo.

Meddai’r Cynghorydd Rosemarie Harris, Aelod o Awdurdod y Parc Cenedlaethol,

“Beth sy’n rhaid i berchnogion y cerbydau yma ddeall ydy eu bod yn achosi difrod i dirwedd hardd – mae’r tir yn cael ei ddifrodi gan y teiars a’i greithio’n ddrwg. Mae’r cerbydau hefyd yn tarfu ar fywyd gwyllt a da byw, a pheryglu diogelwch pobl eraill sy’n dod i’r parc, yn enwedig ar lwybrau â dim hawl tramwy i gerbydau.  Mae’r Heddlu a’r Awdurdod yn derbyn nifer o gwynion am hyn bob blwyddyn.”

Ychwanegodd Sam Ridge, Warden Ardal, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog,

“Mae erlyniadau llwyddiannus yn anfon neges glir i yrwyr oddi ar y ffordd nad ydy’r Parc Cenedlaethol yn ardal i ddod a’u cerbydau iddi. Mae’r Parc Cenedlaethol eisiau cael gwared â’r gyrru oddi ar y ffordd anghyfreithlon, a gyda mwy o gyrchoedd ar y gweill ym misoedd yr haf, rydyn ni’n gobeithio dileu’r broblem hon drwy’r parc i gyd.”

Ar achlysur llwyddiannus yn dilyn hyn, stopiwyd beic cwad a’i atafaelu. Rhoddwyd rhybudd i bum gyrrwr arall am yrru ar dir comin, ac yn ystod y cyrch, rhwystrwyd ugain i ddeg ar hugain mwy rhag gyrru’n anghyfreithlon, oherwydd presenoldeb y warden a thimau’r heddlu.

Meddai Cwnstabl Jamie Whitcomb, Heddlu Gwent, “Mae’r cyd-weithredu gyda Wardeniaid y Parc Cenedlaethol wedi cael canlyniadau positif, wrth i ni ymdrechu i leihau beicio oddi ar y ffordd ar dirwedd sydd wedi ei amddiffyn. Yn aml iawn, does gan berchnogion y beiciau modur, beiciau cwad a’r sgramblwyr ddim MOT, yswiriant nac offer diogelwch, ac maen nhw’n dangos diffyg consyrn am eu diogelwch eu hunain a diogelwch y cyhoedd. Rydyn ni hefyd yn awyddus i roi stop ar yr ymddygiad peryglus ac anghymdeithasol yma, a gobeithio y byddwn yn gweithredu ar y cyd eto yn y dyfodol.”

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn croesawu unrhyw wybodaeth ynglŷn  â gweithgareddau anghyfreithlon oddi ar y ffordd o fewn y parc, a gallwch gwblhau ffurflen ar-lein i roi gwybodaeth am ddigwyddiadau penodol yn <http://goo.gl/0O4lDs> .

-DIWEDD-

Nodiadau i’r Golygyddion

Photograph © breconbeaconsnationalparkauthority