Pawennau yn y Parc

Mae Parc Gwledig Craig-y-nos ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnal dau ddiwrnod cŵn arbennig ar Ddydd Mercher 17 a Dydd Iau 18 Chwefror, 10 y bore – 4 y prynhawn bob dydd. Mae miloedd o bobl yn mynd â’u cwm am dro yng Nghwm Tawe bob blwyddyn. Bydd y parc yn cynnal nifer o weithgareddau ac arddangosfeydd mewn cysylltiad â chŵn i ymwelwyr a’u cyfeillion pedair coes yn ystod y gwyliau hanner tymor. 

Bydd Theresa Toomey, hyfforddwr ac arbenigwr ar ymddygiad cŵn, wrth law gyda chyngor ac awgrymiadau ar drin cŵn. Bydd hi hefyd yn cynnig sesiynau i berchnogion gael cyngor unigol rhwng 11 y bore a hanner dydd, ac 1 a 2 y prynhawn ar y ddau ddiwrnod. Bydd perchnogion cŵn yn gallu archebu slotiau 10-15 munud ar y diwrnod – y cyntaf i’r felin.   I anifeiliaid anwes mwy anturus, bydd cyfle hefyd i roi cynnig ar ymarferion cŵn rhwng hanner dydd ac 1 y prynhawn ac eto rhwng 2 a 3 y prynhawn. Mae’r holl sesiynau am ddim, ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.  Bydd Prif Warden y Parc Cenedlaethol, Judith Harvey yn arddangos ei chŵn gweithio, sef dau German Shorthaired Pointers a Labrador.  Bydd cyfle i ymwelwyr hefyd weld nifer o fridiau eraill o gŵn gan gynnwys Cŵn Newfoundland anferth a bridiau cŵn bach, a rhoi triniaeth arbennig i’w hanifeiliaid anwes gan Rhiannon Saddler sy’n brydferthwr cŵn.

Gyda’r gwanwyn yn prysur ddynesu, fe ddaw’n dymor bridio i adar sy’n nythu ar y ddaear ac ŵyn y gwanwyn, ac mae ‘Paws in the Park’ yn amser perffaith i ymwelwyr gael gwybodaeth ar sut i sicrhau bod eu cŵn yn ddiogel wrth fynd am dro yn y parc. Bydd arbenigwyr o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog a’r gymuned ffermio hefyd yno ar y ddau ddiwrnod a byddant yn hapus i ateb cwestiynau gan y cyhoedd.

Dywedodd Ian Penn, warden Parc Gwledig Craig-y-nos: “Mae’r Parc Cenedlaethol yn boblogaidd iawn gyda pherchnogion cŵn ac roeddem eisiau dathlu’r gwaith o ofalu am gŵn gyda’r digwyddiad hwn. Rydym eisiau i ymwelwyr allu mynd â’u cŵn am dro yn y parc yn ddiogel. Bydd tua hanner yr ymwelwyr i Barc Gwledig Craig-y-nos yn dod â chi gyda nhw, ac mae’n bwysig i fi fod pobl a bywyd gwyllt yn gallu mwynhau’r Parc.”

Dywedodd Mr Edward Evans, Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n Eiriolwr dros Amaeth a Rheolaeth Tir, ‘”Mae’n wir ein bod yn genedl sy’n caru cŵn, ond wrth i gymaint o bobl fynd â’u cŵn i gefn gwlad dros wyliau’r Nadolig, bu cynnydd sylweddol yn nifer yr ymosodiadau ar ddefaid gan gŵn.  Mae hyn yn achosi pryder mawr ymhlith ffermwyr ar ddechrau’r tymor wyna, felly mae’n bwysicach fyth nad yw defaid yn cael eu poeni na’u brifo gan gŵn – mae bywoliaeth ffermwyr yn dibynnu ar hyn, ac mae’r Heddlu a ffermwyr yn rhybuddio y bydd yn rhaid saethu unrhyw gŵn sy’n poeni ac yn ymosod ar ddefaid. I godi ymwybyddiaeth o hyn a materion tebyg, byddwn yn cynnal digwyddiad ym Mharc Gwledig Craig-y-nos i annog perchnogion cŵn i beidio â chymryd unrhyw siawns gyda’u cŵn, ac i roi gwybodaeth bwysig iddynt ynghylch bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm a sut i ymddwyn yn gyfrifol.  Rydym yn gobeithio y bydd yr arddangosfeydd a’r sesiynau hyfforddi cŵn yn denu perchnogion cŵn ac yn eu hannog i ddysgu mwy sut i ddiogelu a chefnogi’r cefn gwlad y maent yn ei fwynhau gyda’u cŵn.”

DIWEDD