Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cytuno ar gynlluniau i sicrhau toriadau cyllideb

Mewn cyfarfod o Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar Ddydd Gwener 5 Chwefror 2016, cytunodd Aelodau ar gynlluniau i sicrhau’r toriadau cyllideb sydd eu hangen i gynnal cyllideb gytbwys yn y flwyddyn ariannol 2016/17. Mae’n rhaid i’r Awdurdod ymdopi â gostyngiad o 4.7% yn y gyllideb, sy’n cyfateb i £218,000.   Yn y tair blynedd diwethaf, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi gorfod arbed mwy na £1 filiwn o’i gyllideb.   

Cynhaliodd yr Awdurdod ymgynghoriad mewnol ar gynigion a fyddai’n sicrhau’r arbedion ac, yng nghyfarfod 5 Chwefror, bu’r Aelodau yn ystyried adroddiad manwl ar y cynigion hyn, ynghyd ag awgrymiadau eraill a oedd wedi codi o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a sylwadau gan y cyhoedd. Cytunodd yr Aelodau y byddai’n rhaid derbyn diswyddiadau gwirfoddol fel rhan o’r mesurau hyn.

Bu ychydig o gamddealltwriaeth bod Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol (tu allan Libanus) mewn perygl er nad oedd y papur gwreiddiol yn cynnwys cynnig i gau’r Ganolfan. Yn hytrach, roedd y cynlluniau yn trafod dyfodol y gwasanaeth Gwybodaeth i Ymwelwyr a’r siop; ni fu unrhyw gynnig i gau’r ystafelloedd te.   Cytunodd Aelodau y bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth a’r siop yn parhau ar agor hyd 30 Medi 2016, ac y bydd gweddill y Ganolfan ar agor fel arfer.  Clywodd yr Aelodau bod nifer o gynigion gwahanol wedi’u derbyn yn ystod y cyfnod ymgynghori, ac y byddai gweithgor yn ystyried y rhain gan lunio papur diwygiedig i’w drafod yng nghyfarfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar 10 Mehefin.

Fodd bynnag, cytunwyd y byddai Canolfan y Rhaeadrau ym Mhontneddfechan yn cau ar 6 Mehefin 2016. Mae swyddogion Awdurdod y Parc Cenedlaethol mewn trafodaethau gyda chynrychiolwyr cymuned Pontneddfechan i weld os oes diddordeb yn lleol mewn cynnal elfennau o’r arddangosfa, sydd ar hyn y bryd yng Nghanolfan y Rhaeadrau, yn Neuadd y Pentref. Nodwyd y bydd pwynt gwybodaeth a maes parcio Cwm Porth yn parhau ar agor a bod hyn yn fan mynediad arall i ardal y rhaeadrau.  Bydd y Ganolfan Geopark sydd ar hyn o bryd yng Nghanolfan y Rhaeadrau yn symud i Barc Gwledig Craig-y-nos.

Mae dyletswydd statudol ar holl Awdurdodau lleol i reoli eu rhwydwaith hawliau tramwy. O fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae’r Cynghorau wedi dirprwyo’r dyletswyddau hyn i Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac yn rhoi cyfraniad ariannol bach tuag at gyflawni’r gwaith.  Cytunodd yr Aelodau i weithio gyda’r Cynghorau Sir a Bwrdeistref i adnabod ffyrdd o barhau gyda’r gwaith pwysig hwn yn sgil cyfyngiadau ariannol yn awr a’r dyfodol. Nid oes unrhyw gynigion i wneud newidiadau i’r gwaith cynnal a chadw rhagorol a wneir gan wardeniaid a gwirfoddolwyr ar hawliau tramwy ledled y Parc Cenedlaethol.

Cytunodd Aelodau y byddai rhai elfennau o’r gwasanaethau cynllunio yn symud tuag at ddarpariaeth trwy gyfrwng electronig er mwyn sicrhau arbedion.

Dywedodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Mae holl Awdurdodau yn wynebu penderfyniadau anodd a dydyn ni ddim yn eithriad. Ddydd Gwener, cytunwyd ar gyfres o gamau a fydd yn sicrhau cyllideb gytbwys. Roedd y penderfyniadau anodd a wnaethom wedi’u llywio gan yr ymgynghoriad staff a’r ymatebion a dderbyniwyd o’r cyhoedd. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn Awdurdod sy’n gwrando a chredaf y bydd canlyniadau heddiw yn dangos hynny.”

DIWEDD