Swyddog Cadwraeth Cynorthwyol y Parc Cenedlaethol yn ennill Gwobr Cadwraethwr John Muir

Yn ddiweddar, enillodd Swyddog Cadwraeth Cynorthwyol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Wobr Cadwraethwr John Muir yn sgil ei waith helaeth gyda gwirfoddolwyr ac yn monitro rhywogaethau adar yr ucheldir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae Jason Rees sydd wedi bod yn Swyddog Cadwraeth Cynorthwyol gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am bron bedair blynedd, wedi treulio dros 60 diwrnod yn gweithio tuag at y lefel uchaf o dair yng nghynllun gwobrau John Muir, sy’n gynllun gwobrwyo amgylcheddol gan Ymddiriedolaeth John Muir a gynhelir ledled y DU ac a weithredir mewn partneriaeth ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mae’n annog pobl o bob cefndir i ymddiddori, i fwynhau ac i ofalu am diroedd gwyllt – gan werthfawrogi rhinweddau lleol arbennig Bannau Brycheiniog.

Wrth gerdded llwybr can milltir y Bannau, a phrofi rhai o dirweddau mwyaf ysblennydd ac anodd y Parc Cenedlaethol, bu Jason yn monitro dros 15 o rywogaethau adar yr ucheldir, gyda llawer ohonynt wedi eu gwarchod o dan gyfraith Ewrop, a chymharu ei anturiaethau â rhai John Muir, sylfaenydd mudiad y Parciau Cenedlaethol dros ganrif yn ôl.

Meddai Jason: “Roedd Ffordd y Bannau yn ddewis da wrth geisio efelychu John Muir gyda’i daith o fil o filltiroedd.  Doedd Muir ddim wedi dewis llwybr penodol, dim ond dilyn y ffordd fwyaf gwyllt a deiliog a’r fwyaf anghyfarwydd y gallai ddod o hyd iddi. Er na fu imi brofi tirwedd mor anodd a diarffordd ag y gwnaeth yntau, mae’r profiad hwn wedi bod lawn mor anhygoel. Rwy’n gobeithio y bydd y gwirfoddolwyr sy’n gydweithwyr i mi bob dydd yn gallu gweld faint rwyf wedi ei ddysgu o’r profiad, ac y bydd hynny’n eu sbarduno i fynd ati eu hunain i ymgeisio am y Wobr.”

Treuliodd Jason fwy na 40 diwrnod hefyd yn cydlynu gwirfoddolwyr y Parc Cenedlaethol yn Waun Fach i weithio ar brosiect arloesol i adfer mawnogydd a gyllidwyd gan Gronfa Natur Llywodraeth Cymru. Cyfrannodd y gwirfoddolwyr ynghyd â Jason bron 2,000 o oriau yn gwneud gwaith annibynnol ar y Mynydd Du a Chanol Dwyreiniol y Bannau yn cynnal a chadw llwybrau, yn cyfri’r rugiar a chynnal arolygon ar gyflwr y grug.

Cyflwynwyd y Wobr i Jason gan Phil Stubbington, Rheolwr Gwobr John Muir yng Nghymru, ac meddai: “Mae cwblhau Gwobr Cadwraethwr John Muir yn llwyddiant ardderchog. Mae’n amlwg bod Jason wedi ysbrydoli eraill i gymryd rhan, yn ogystal â’i gyfraniad personol ei hun i’r dirwedd hyfryd hon. Mae llwyddiant Jason yn un o amryfal rinweddau’r bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth John Muir ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.”

Mynegodd Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog y Cynghorydd Geraint Hopkins ei longyfarchiadau hefyd gan ddweud: “Roedden ni wrth ein boddau fod Jason wedi ennill Gwobr Ymddiriedolaeth John Muir – mae’n gydnabyddiaeth am yr holl waith caled a’r ymroddiad a ddangosodd wrth weithio gyda gwirfoddolwyr a chofnodi rhywogaethau adar yn y Parc Cenedlaethol.”