Sefydliad y Merched Tal-y-bont ar Wysg yn rhoi croeso cynnes i breswylwyr newydd

Mae Sefydliad y Merched yn enwog am ei galendrau, ond mae Sefydliad y Merched Tal-y-bont ar Wysg yn cerdded yr ail filltir, gan gynnig Basged Groeso i bobl sy’n symud i’r pentref hardd hwn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’w helpu i ymuno yn y gymuned leol o’r cychwyn cyntaf.

Gyda chymorth prosiect Cynghreiriau Gwledig Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Sefydliad y Merched Tal-y-bont ar Wysg wedi dechrau cynnig Basgedi Croeso a fydd yn ceisio cynnwys pob math o gynnyrch lleol tymhorol, cerdyn croeso a thalebau i gael prydau bwyd am bris gostyngol mewn tafarndai lleol ac yn siop y pentref. Mae prosiect y Cynghreiriau Gwledig wedi’i ariannu gan raglen Interreg IVB Gogledd-orllewin Ewrop yr UE, ynghyd â rhaglen Arian Cyfatebol a Dargedir Llywodraeth Cymru.

Yn ddiweddar, ymwelodd dwy aelod o Sefydliad y Merched, Sue Thorne a Cherry Jones, â Leuven, Gwlad Belg i weld prosiect tebyg a oedd wedi’i roi ar waith mewn amryw o gymunedau yno.

Meddai Andrew Williams, Swyddog Twristiaeth Gynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae’n hawdd gweld pam mae Tal-y-bont ar Wysg ac ardaloedd cyfagos Aber, Buckland, Llansanffraid, Pencelli a Sgethrog yn llefydd poblogaidd i symud iddyn nhw. Wrth symud i ardal newydd, mae’n gallu bod yn anodd cyfarfod â phobl newydd a dysgu beth sy’n digwydd yn y gymuned. Mae’r prosiect hwn yn rhoi cyfle i bobl a busnesau lleol ymgysylltu â newydd-ddyfodiaid, eu croesawu a gwneud iddyn nhw deimlo’n rhan o’r gymuned cyn gynted â phosibl, ac rydyn ni’n hynod falch ein bod ni wedi gallu helpu i ariannu’r prosiect newydd hwn trwy Gynghreiriau Gwledig. Rydyn ni’n credu bod y fasged yn rhodd wych sy’n rhoi blas go iawn ac ymdeimlad o’r hyn sydd gan Dal-y-bont ar Wysg i’w gynnig. Mae bwyd lleol a thalebau i gael gostyngiadau yn cyd-fynd â’n hagenda gynaliadwyedd ac yn cefnogi’r economi leol.”

Meddai Sue Thorne o Sefydliad y Merched Tal-y-bont ar Wysg: “Roedd hi’n wych cyfarfod â phobl Leuven i ddysgu sut maen nhw wedi rhoi eu cynllun croeso ar waith ac i ddefnyddio eu syniadau ochr yn ochr â’n syniadau ni. Mae Sefydliad y Merched eisoes yn enwog am ei galendrau ac rydyn ni’n edrych ymlaen at roi cynllun newydd y basgedi croeso ar waith.”

Meddai Karel Lhermitte, Cynghorydd Polisi ac ymgynghorydd prosiect yn Landelijkegilden, Gwlad Belg: “Roedd hi’n gyffrous i ni gael rhannu straeon am ein prosiect, ‘Welkom In’ – rhoddodd hyn gymaint o hwb i ni. Mae hi wedi bod yn wych dangos ein prosiect i chi (Cherry a Sue) a dangos pentrefi a chynlluniau eraill mae Landelijkegilden yn rhan ohonyn nhw.”

Meddai’r Cynghorydd Jane Ward, Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Rwy’n gefnogwr brwd o Sefydliad y Merched ac mae’n wych gweld bod cymuned Tal-y-bont ar Wysg yn cyflwyno’r pecyn croeso hwn i newydd-ddyfodiaid i’r ardal.  Mae prosiect y Cynghreiriau Gwledig wedi eu galluogi nhw i ddysgu gan un o’n partneriaid yng Ngwlad Belg ac mae’n enghraifft wych o un o fanteision gwaith partneriaeth ledled Ewrop, sef rhannu syniadau arloesol a’u haddasu i ddiwallu anghenion ein hardal ni.”

-DIWEDD-