Y Parc Cenedlaethol yn gosod ei gerflun sain cyntaf ger Llyn Syfaddan

Mae bywyd gwyllt amrywiol a lliwgar glannau gorllewinol Llyn Syfaddan wedi cael bywyd newydd yn sgil cerflun sain 6 troedfedd unigryw – y cyntaf o’i fath ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Bellach gall ymwelwyr sy’n dilyn llwybr tawel trwy Gaeau Tŷ Mawr yn Llangasty ar lannau gorllewinol Llyn Syfaddan fwynhau nodwedd newydd yn y tirlun pan ddôn nhw ar draws cerflun sain cyntaf Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gall y cerflun newydd wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymwelwyr o Gaeau Tŷ Mawr, eu ffawna a’u fflora amrywiol a phwysigrwydd y llifogydd tymhorol o ran cynnal y bywyd gwyllt diddorol ar hyd y llwybr troed hyfryd hwn.

Er mwyn dathlu’r bywyd gwyllt amrywiol sy’n byw yn y caeau a’r llyn gerllaw, mae’r cerflun pren hardd 6 throedfedd a gerfiwyd gan yr artist Dai Edwards o Dde Cymru yn dangos y Chwilen Gyrs Deuliw, Tresgl, y Feillionen Hyposaidd Cyffredin, y Fursen ac i goroni’r cyfan yw pen blodyn y clafrllys gwreidd-dan.

Mae chwaraeydd sain y tu mewn i’r cerflun, ar ffurf Black Box AV gyda sgriptiau a gyfansoddwyd gan yr ymgynghorydd treftadaeth llawrydd, Dr Sarah McCarthy yn cael eu lleisio gan yr actores Tonya Smith a fu ar Pobol y Cwm. Mae dewis o bedwar clip sain sy’n egluro pam mae’r safle o bwys cenedlaethol, yn trafod sut mae’r Parc Cenedlaethol a’r tenant o ffermwr yn rheoli’r dolydd mewn modd sensitif er mwyn hybu’r amrywiaeth o flodau gwyllt, ac adroddir straeon a chwedlau am y rhywogaethau sy’n byw yno gan esbonio’r modd y mae’r llifogydd tymhorol mor hanfodol i barhad y bywyd gwyllt. Mae’r traciau sain hyn a chyfarwyddiadau ar gyfer dod o hyd i’r cerflun ar gael yn: www.breconbeacons/caeautymawr

Ariannwyd y prosiect ar y cyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac fe’i lluniwyd i gefnogi  cynllun rheoli Llangasty – Caeau Tŷ Mawr sy’n sicrhau cydbwysedd rhwng cadwraeth y bywyd gwyllt bregus a’r mwynhad a gaiff ymwelwyr o’r safle.

Y gobaith yw y bydd y cerflun yn helpu i egluro pam y mae’r dolydd blodau gwyllt yn edrych yn wahanol i’r caeau eraill sydd ar hyd y llwybr, a sut maent yn cael eu rheoli a pham y mae llifogydd ar y llwybr ym misoedd y gaeaf a phwysigrwydd y llifogydd i’r bywyd gwyllt yng Nghaeau Tŷ Mawr.

Meddai Suzanna Jones, Swyddog Dehongli Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Dyma’r cerflun sain cyntaf o’i fath ym Mannau Brycheiniog ac rydym ni’n hynod falch iddo gael ei osod yng Nghaeau Tŷ Mawr. Mae hwn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae’n hynod bwysig i’r Parc Cenedlaethol. Mae’n ddigon hawdd cerdded drwy’r dolydd hyn o flodau gwyllt heb sylweddoli pa mor unigryw a phwysig yw rhai o’r rhywogaethau prin o fywyd gwyllt. Mae’r gwaith celf hardd hwn wedi ein galluogi i ddathlu’r planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw yma, a chyda’r sgript ddiddorol mae’r cyfan yn brofiad cofiadwy, deallus ac ysbrydoledig i ymwelwyr ei fwynhau am flynyddoedd i ddod.”

Yn ôl Graham Motley, Uwch Swyddog Cadwraeth Cyfoeth Naturiol Cymru: “Dylai’r llwybr sain helpu ymwelwyr i werthfawrogi’r ffaith mai dyma rai o’r ychydig ddolydd blodeuog sydd ar ôl ar yr iseldir ym Mrycheiniog a bod Llyn Syfaddan nid yn unig yn bwysig i Gymru ond bod iddi arwyddocâd Ewropeaidd hefyd.”

Meddai Mrs Margaret Underwood, Hyrwyddwr Bioamrywiaeth ac Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Fel Awdurdod, rydym ni wedi ymrwymo i gyfoethogi’r amgylchedd naturiol ac mae prosiect y cerflun diddorol hwn a luniwyd yn sgil cymorth ariannol gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi bywyd i rinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol. Er ei bod yn daith boblogaidd i’r sawl sy’n gwybod amdani, mae’n llwybr dirgel i lawer, yn drysor cudd o fywyd gwyllt cyfoethog ond mae ei harwyddocâd ecolegol a’r technegau penodol sydd eu hangen i’w rheoli yn anhysbys i’r mwyafrif. Mae’r cerflun sain yn wir yn helpu i egluro pam y mae’r ardal mor arbennig a pham y mae’n rhaid ei rheoli mor ofalus. Hoffwn ddiolch i bawb a lwyddodd i gael y maen i’r wal – mae’n gaffaeliad i gymunedau Llangasty a Llan-gors ac i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.”

-DIWEDD-