Taith y Parc Cenedlaethol i ffau Batman yn cael ei hailwampio diolch i gyllid hael

Bydd ymwelwyr sy’n cerdded i raeadr uchaf De Cymru, Sgwd Henrhyd – sef Ogof Batman yn y ffilm hynod boblogaidd ‘The Dark Knight Rises’ – yn falch o glywed bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog newydd orffen gwneud gwelliannau sylweddol ar lwybr Nant Lech a’i wneud yn fyw hygyrch i bobl fynd yno.

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gartref i lawer o gynefinoedd prin ond rhaid mai dyma’r prinnaf a’r enwocaf, sef cartref Batman ei hun. Ar uchder o 88 troedfedd (27 metr), mae Sgwd Henrhyd  – sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol – wedi dod yn gyrchfan cerdded poblogaidd i wybodusion y byd ffilmiau ac i ymwelwyr sydd am ddiflannu y tu ôl i len o ddŵr gwyn a chael blas ar guddfan anhygoel Batman.

Yn sgil cyllid hael gan Lywodraeth Cymru, mae Wardeiniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi gweithredu gwelliannau sylweddol i Lwybr Nant Llech, sy’n mynd o Sgwd Henrhyd i gydlifiad Afon Tawe ac Afon Llech uwchben Aber-craf, fel bod ymwelwyr yn gallu mwynhau’r daith heb niweidio’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Mae gwelliannau’n cynnwys tynnu dwy gamfa o’r llwybr sy’n mynd o Ynyswen i Henrhyd ac yn eu lle, gosod clwydi metel wedi’u galfaneiddio sy’n cau ohonynt eu hunain. Mae cyfres o risiau a llwybr pren 40 metr wedi eu gosod er mwyn gwarchod y cynefin dôl unigryw yn yr ardal.

Mae’r gwelliannau newydd yn datblygu’r gwaith a wnaed yn wreiddiol gan y Cynllun Croesawu’r Gymuned yn ystod 2007-2013, a gafodd ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru. Yn ystod y cyfnod gwella hwn bydd pedwar panel sain gydag ardaloedd eistedd yn galluogi ymwelwyr i glywed arbenigwyr ar ddaeareg a botaneg a thrigolion lleol yn cofio am dirlithriadau a diwydiant yn y dyffryn, yn ogystal ag atgofion o’u plentyndod yn yr ardal.

Meddai Judith Harvey, Warden-Reolwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Mae mwy a mwy o ymwelwyr wedi bod yn dod i Lwybr Nant Llech a Sgwd Henrhyd fel ei fod yn gyrchfan cerdded poblogaidd yn y Bannau – i drigolion Tawe Uchaf ac ymwelwyr. Mae’r gwelliannau yn rhan o’n polisi o rodfeydd heb gamfeydd er mwyn hwyluso mynediad o gwmpas anheddau ac ar lwybrau poblogaidd. Â’r gwaith bellach wedi’i orffen, gall pobl am flynyddoedd i ddod wir fwynhau’r hyn sydd gan Aber-craf a’r cylch ei gynnig, gan fod yn dawel eu meddwl nad ydyn nhw’n tarfu ar y SoDdGA. Edrychwn ymlaen at gydweithio â chymuned Tawe Uchaf ar brosiectau eraill yn y dyfodol agos. Heb gymorth hael Llywodraeth Cymru, ni fyddem wedi gallu cyflawni’r gwaith.”

Yn ôl y Cynghorydd Stephen Davies, Cadeirydd Cyngor Cymuned Tawe Uchaf:  “Mae’n rhoi cryn bleser i mi weld y gwaith hwn wedi’i gwblhau yn un o raeadrau prydferthaf Cymru. Mae’n ddatblygiad pellach ar y gwaith a wnaed yn flaenorol ac mae Cyngor Cymuned Tawe Uchaf yn gobeithio y daw llawer o bobl, yn drigolion lleol ac yn ymwelwyr i’r ardal i fwynhau harddwch ac arbenigrwydd Llwybr Nant Llech yn awr ac am flynyddoedd i ddod.”

Meddai Mrs Margaret Underwood, Hyrwyddwr Bioamrywiaeth ac Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Rwyf wrth fy modd fod y Parc Cenedlaethol wedi gallu darparu cyllid cyfatebol hanfodol er mwyn helpu i wella Llwybr Nant Llech. Mae’n atynfa ardderchog i dwristiaid yng Nghymru a fydd yn fuddiol nid yn unig i’r gymuned leol ond i ymwelwyr hefyd yn y safle cadwraeth hwn.”

-DIWEDD-