Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn parhau i wynebu toriadau na welwyd mo’u tebyg ac mae wedi cynnal adolygiad o’i delerau ac amodau staff

Er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn gweithredu’n unol â’r rhan fwyaf o’r sector cyhoeddus yng Nghymru, mae wedi cyhoeddi newid i’r amodau o 4 Mai 2015 ymlaen – o’r dyddiad hwnnw ymlaen, ni fydd yr Awdurdod yn talu cyfraddau talu uwch i staff sy’n gweithio dros y penwythnos, fel rhan o gyfres o fesurau i arbed £130,000 y flwyddyn.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn wynebu toriadau na welwyd mo’u tebyg o ganlyniad i ostyngiad o dros 13% yng Ngrant y Parc Cenedlaethol ar gyfer y cyfnod 2014/15 i 2015/16. Yn gyffredinol, felly, mae angen i’r Awdurdod sicrhau arbedion o tua £650,000. Ar ben hynny, yn ystod 2014 derbyniodd yr Awdurdod doriad ychwanegol annisgwyl o £89,000.

Mae’r telerau ac amodau newydd ar gyfer taliadau staff yn cynnwys terfynu’r cyfraddau talu uwch am weithio dros y penwythnos. Yn ystod y cyfnod ymgynghori, derbyniodd yr Awdurdod adborth gan staff ac, o ganlyniad, mae wedi penderfynu cadw’r taliadau ychwanegol presennol am weithio ar Wyliau Banc.

Y nod yw y bydd y telerau ac amodau newydd, a fydd yn cyd-fynd â thelerau ac amodau Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol eraill yng Nghymru, yn arbed tua £30,000 y flwyddyn. Ni fydd y toriadau’n dod i rym tan 4 Mai 2015 ac mae’r Awdurdod yn cynnig cyfandaliad untro i staff a fydd yn cael eu heffeithio gan y newid fel iawndal am derfynu eu taliadau uwch.

Meddai Mr John Cook, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Mantoli’r gyllideb hon dros y ddwy flynedd diwethaf yw un o’r heriau anoddaf a wynebais erioed. Rydyn ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn ond, gyda’r pwysau i ddod o hyd i dros £650,000 o arbedion dros ddwy flynedd a thu hwnt, doedd gan yr Awdurdod ddim dewis ond ailystyried y telerau ac amodau y mae’n eu cynnig i staff er mwyn lleihau nifer y diswyddiadau gorfodol sy’n ofynnol.

“Rydyn ni wedi treulio sawl wythnos yn holi staff am eu barn ac rydyn ni wedi cynnal amryw o gyfarfodydd gyda’r Undeb a chynrychiolwyr eraill i sicrhau ein bod ni wedi ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael. Rydyn ni’n credu mai cyflwyno telerau ac amodau newydd yw un o’r opsiynau gorau ar gyfer diogelu’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig a lleihau’r tebygolrwydd o ddiswyddo mwy o staff.”

DIWEDD