Y Gweinidog yn croesawu prosiect peilot y Parc Cenedlaethol, sy’n cyflwyno cynrychiolwyr cymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig i fywyd cyhoeddus

Mewn cyfarfod sefydlu arbennig a gynhaliwyd yn gynharach heddiw, croesawodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog bedwar cynrychiolydd o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig Casnewydd, Caerdydd ac Aberhonddu. Bydd y pedwar cynrychiolydd yn cymryd rhan mewn prosiect peilot newydd, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, lle byddant yn cael eu mentora gan Aelodau’r Awdurdod i’w helpu i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ymgysylltu â’u cynghorau tref a chymuned a’u hawdurdodau lleol.  

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn hynod falch o fod yn lansio ei brosiect peilot newydd sy’n ceisio gwella cynrychiolaeth a chynhwysiant cynrychiolwyr cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig trwy eu cyflwyno i broses ddemocrataidd Awdurdod Parc Cenedlaethol.

Cafodd Jasmin Chowdhury a Bhunesh Napal o Gaerdydd, Zobia Zaman o Gasnewydd a Guptaman Gurung o Aberhonddu, sy’n cynrychioli’r gymuned Nepalaidd sy’n byw yn y Parc Cenedlaethol, eu cyflwyno i’r cynllun peilot yn gynharach heddiw, a byddant yn cael golwg unigryw ar brosesau democrataidd a gwaith Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’i Aelodau.

Mae chwech o aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol – gan gynnwys Mrs Melanie Doel (Dirprwy Gadeirydd), y Cynghorydd Glynog Davies (Cyngor Sir Gaerfyrddin), y Cynghorydd David Meredith (Cyngor Sir Powys), y Cynghorydd Paul Ashton (Cyngor Sir Powys), y Cynghorydd Ann Webb (Cyngor Sir Fynwy) a Mr Ian Rowat (aelod penodedig Llywodraeth Cymru) – wedi gwirfoddoli i fentora’r cynrychiolwyr, a byddant yn cynnig cymorth ac arweiniad iddynt gydol y broses.

Wrth siarad am y prosiect peilot, meddai Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: “Mae hyrwyddo amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus yn ein galluogi ni i ehangu’r

 

gronfa o ddarpar ymgeiswyr ac yn ein helpu ni i gyflwyno cronfa o benderfynwyr sy’n fwy cynrychiadol o’r Parc Cenedlaethol ac o Gymru gyfan. Bydd cynyddu nifer y menywod, lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl, yn ogystal â grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol, sy’n cymryd rhan ym mhrosesau penderfynu ein cyrff cyhoeddus o fudd mawr i’n cymunedau. Rwy’n hynod falch o fod yn cefnogi’r prosiect mentora hwn sy’n cael ei arwain gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.”

Meddai’r Cynghorydd David Meredith, Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae hwn yn gyfle gwych i Aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog rannu eu gwybodaeth fel penderfynwyr llywodraeth leol fel y gall ein cyfranogwyr wella eu cynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus. Byddwn ni’n dod â llawer o frwdfrydedd, egni a chefnogaeth i’r prosiect hwn, ond byddwn ni hefyd yn dysgu llawer fel Aelodau. Y prosiect peilot hwn yw’r cyntaf o’i fath yma yng Nghymru ac, erbyn diwedd y chwe mis, rydyn ni’n gobeithio y bydd gwerthusiad manwl yn cyflwyno gwell dealltwriaeth o ba ddulliau mentora oedd yn gweithio’n well nag eraill, felly os bydd y prosiect hwn yn cael ei gyflwyno mewn ardaloedd eraill neu’n cael ei ailadrodd ym Mannau Brycheiniog, byddwn ni’n gallu sicrhau bod cynrychiolwyr cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu mentora a’u cefnogi yn briodol yn y dyfodol.”

Bydd y pedwar cynrychiolydd yn derbyn o leiaf 24 diwrnod o hyfforddiant a fydd yn cynnwys sesiynau sefydlu penodol sy’n eu galluogi i ymuno yn y Rhaglen Datblygu Aelodau ar gyfer 2015/2016 fel y gallant ddysgu gan Aelodau presennol beth mae’r swydd yn ei olygu. Byddant hefyd yn arsylwi cyfarfodydd a chyfarfodydd gweithgorau ac yn cael sesiynau adborth anffurfiol gyda’u mentoriaid ar ôl cyfarfodydd.

-DIWEDD-