Wardeniaid dan hyfforddiant yn cwblhau gwelliant mawr i’r llwybr yn Bwlch

Mae Wardeniaid Dan Hyfforddiant o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cwblhau gwelliannau mawr i’r Llwybr Ceffylau poblogaidd sy’n rhedeg o Bwlch dros gopa bryngaer Oes Haearn Allt yr Esgair ac i mewn i Langasty.                 

O dan arweiniad Wardeniaid Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae’r saith Warden dan hyfforddiant wedi cyflawni gwelliannau sylweddol i’r llwybr ceffylau gan ei wneud yn fwy hygyrch i farchogion ceffylau, beicwyr mynydd a cherddwyr.

Mae Llwybr Ceffylau Allt yr Esgair yn llwybr lleol gyda golygfeydd hardd panoramig ac yn cynnal sawl llwybr wedi’u hyrwyddo, gan gynnwys y Three Rivers Ride – gan ei wneud yn boblogaidd gyda marchogion ceffylau, beicwyr mynydd a cherddwyr cŵn.

Golygodd y gwelliannau ddraenio a rhoi wyneb newydd ar dros 500 metr o lwybr ceffylau, gan ddefnyddio 500 tunnell o gerrig.  Cymerodd y gwaith gwella sawl wythnos i’w gwblhau ac roedd gwella’r llwybr yn cynnwys newid nifer o glwydi.

Dywedodd Sam Ridge, Warden Ardal Ddwyreiniol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Mae’n llwybr poblogaidd iawn yn nwyrain y Parc – i breswylwyr ac ymwelwyr. Rydym yn falch o fod wedi cwblhau’r gwelliannau hyn gan eu bod wedi bod ar waith ers 2013.  Mae bron pob Warden a Warden dan hyfforddiant wedi treulio amser yn gweithio ar y dasg hon – dyna oedd yr un mwyaf o bell ffordd a’r llwybr oedd angen ei atgyweirio fwyaf yn yr ardal.”

“Heb gymorth cyllid gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru ni fyddwn wedi medru cwblhau’r gwaith angenrheidiol yn y safle arbennig hwn ac rydym yn falch iawn ei fod nawr yn ddiogel ac yn fwy hygyrch i bobl ei fwynhau.”

Dywedodd Cynghorydd Sir Powys ac Aelod Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Rosemary Harris:  “Fel cynrychiolydd cymuned Llangynidr gerllaw, rwy’n falch iawn i weld fod y llwybr ceffylau yma wedi’i hatgyweirio ac rydym yn estyn ein diolch i’r holl Wardeniaid a Wardeniaid Dan Hyfforddiant yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’n llwybr poblogaidd ac mae’r Awdurdod eisoes wedi derbyn adborth arbennig gan breswylwyr yr ardal sy’n defnyddio’r llwybr yn rheolaidd gan roi gwybod eu bod yn falch gyda’r gwaith a wnaed.”

Ariannwyd y prosiect drwy raglen barhaus Gwella Hawliau Tramwy’r Awdurdod, cynllun sy’n derbyn grant gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’r Awdurdod wedi derbyn £50,000 drwy’r cynllun hwn yn 2014/15 ac mae mwy o waith atgyweirio yn yr arfaeth yn ystod y flwyddyn ariannol.  Cyfrannodd £1,000 o werthiant taflenni beicio mynydd tuag at y gwaith gwella yn ogystal.

-DIWEDD –