Taflen newydd ‘Awesome Walks’ ar gyfer Llan-gors a Bwlch

Mae cymunedau Llan-gors a Bwlch yn barod at dymor prysur yr haf, gyda’u taflen newydd ‘Awesome Walks’ a lansiwyd yr wythnos hon sy’n rhannu golygfeydd ysblennydd a llwybrau dirgel yr ardal i ymwelwyr eu mwynhau.

Trwy arian prosiect Cynghreiriau Gwledig Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae grŵp twristiaeth Cynghreiriau Gwledig Darganfod Llan-gors a Bwlch wedi cynhyrchu saith taith yn y daflen gerdded gyda lluniau godidog a mapiau o’r ardal i helpu ymwelwyr ar hyd y ffordd. Mae’r Grŵp wedi cynhyrchu 5,000 copi o’r daflen a fydd ar gael yn Nhafarn y New Inn, Siop y Gate, Canolfan Cig Carw Cymru, Canolfan Gweithgareddau Llan-gors a Siop Lakeside yn Llan-gors.

Yn swatio ym mherfeddion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mae pentrefi Llan-gors a Bwlch a dyma ddau le delfrydol i ymwelwyr sydd am grwydro o gwmpas y Parc Cenedlaethol gychwyn arni. Mae’r saith taith yn tywys ymwelwyr ar lwybrau o gwmpas y dirwedd brydferth sy’n amgylchynu Llyn Syfaddan gyda theithiau i Fryn Buckland, Llangasty, Yr Allt, Mynydd Llan-gors a thaith y Tri Chopa – llwybr 11 milltir ar droed dros dri chopa lleol, a’r daith anoddaf yn y llyfryn.

Nid dim ond gwybodaeth am deithiau sydd yn y llyfryn – gall ymwelwyr ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y gweithgareddau sydd ar gael yn yr ardal,  am lwybrau mwy hygyrch ac awgrymiadau am leoedd i fwyta. Jon Pimm , warden y Parc Cenedlaethol fu’n helpu i ddewis y llwybrau a bu aelodau’r grŵp yn eu cerdded i gyd er mwyn sicrhau eu  bod yn ddiogel, yn hygyrch ac wedi’u graddio’n gywir o ran anawsterau.

Mae’r fenter yn rhan o’r Cynghreiriau Gwledig, ac wedi’i hariannu gan raglen Interreg IVB Gogledd Orllewin Ewrop yr Undeb Ewropeaidd a fe’i lluniwyd mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a grŵp Cynghrair Gwledig Darganfod Llan-gors a Bwlch fel rhan o strategaeth leol i helpu ymwelwyr i ddarganfod y cyfleoedd amrywiol i gerdded yn Llan-gors a Bwlch a gwella profiad yr ymwelydd.

“Mae Llan-gors a Bwlch yn ddau bentref strategol pwysig ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac maen nhw’n cynnig popeth bron y gallai’r ymwelydd fod ei angen,” meddai Carol Williams, Swyddog Twf Twristiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a ariannodd y daflen hon. “Bydd y daflen newydd yn cyrraedd rhagor o bobl ac yn rhoi gwybod am y cyfleoedd cerdded sydd ar gael i bawb sy’n dod i ymweld ac mae’n ddilyniant i’r Guide to Llangorse and Bwlch a gynhyrchwyd gan yr un gynghrair.”

Yn ddiweddar cyflwynwyd gwobr efydd i Ryan Thomas o Ganolfan Gweithgareddau Llan-gors gan Wobrau Twristiaeth Cymru Gyfan ar gyfer y categori ‘Seren Twristiaeth y Dyfodol’, gan iddo arwain y grŵp i lunio’r daflen ac meddai:  “Rwy’n hynod falch o gael bod yn rhan o’r prosiect hwn ac yn fwy balch o weld y llyfryn ar gael er mwyn i ymwelwyr ddarganfod yr ardal. Gwelsom fod y llyfr wedi bod yn boblogaidd iawn hyd yn hyn ac mae wedi bod yn galondid gweld pobl yn defnyddio’r maes parcio yma yn y Ganolfan Gweithgareddau ac yng Nghanolfan Cig Carw Cymru i ddechrau eu taith. Mae’n hwb i fusnesau hefyd wrth i bobl daro i mewn am luniaeth neu fyrbryd ar ôl gorffen.”

-DIWEDD-