Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ennill grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer Gwaith Powdwr Du

Mae un o safleoedd treftadaeth ddiwydiannol mwyaf arwyddocaol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cael ei adfywio, diolch i gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.  Dyfarnwyd grant o £58,000 er mwyn datblygu cynlluniau ar gyfer prosiect ‘Explosive Times: preservation and celebration of the Glyn-neath Gunpowder Works’ sy’n ceisio sicrhau ei ddyfodol yn yr hirdymor trwy gadw’r adeiladau a dod â stori’r safle yn fyw ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.

Mae adfeilion y Gwaith Powdwr Du, sy’n un o ddim ond dau yng Nghymru ac yn Heneb Gofrestredig, yn crogi’n beryglus ar ochrau serth Ceunant Mellte. Yn oes ddiwydiannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif byddai’r gwaith yn cynhyrchu powdwr ffrwydro yn bennaf i’w ddefnyddio mewn chwareli, deunydd a oedd yn hanfodol i Gymru a gweddill y byd. Caewyd y safle ym 1931 a chwythwyd mwyafrif yr adeiladau i fyny er mwyn sicrhau nad oedd dim powdwr du ar ôl gan adael yr adfeilion peryglus wedi’u cau i ffwrdd oddi wrth y gymuned er iddynt fod yn gymaint rhan o’i gilydd cynt.  Bydd y prosiect ‘Explosive Times’ yn sicrhau dyfodol y Gweithfeydd Powdwr Du trwy ddiogelu’r adeiladau a rhoi bywyd newydd i hanes hynod y safle, yn ogystal â chymryd camau i warchod y lleoliad hardd ac unigryw.

Bydd y grant cychwynnol o £58,000 yn gymorth i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ddatblygu cynigion, gan arwain at ail gyfres o geisiadau grant i Gronfa Treftadaeth y Loteri am £659,500 pellach. Bydd y prosiect ar waith am dair blynedd a hanner ac mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol eisoes wedi codi dros £280,000 o gyllid cyfatebol gan Gymdeithas Parc Bannau Brycheiniog, Cadw, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Bannau Brycheiniog ac Ymddiriedolaeth Gibbs. Mae cyfanswm cost y cyllid grant yn £1,001,867, sef un o’r prosiectau adfer mwyaf y bu i Awdurdod y Parc ymgymryd ag ef.

Yn ôl Mrs Melanie Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Dyma newyddion rhagorol nid yn unig i’r Gweithfeydd Powdwr Du ond hefyd i’r ardal gyfan ac rydym ni’n ddiolchgar dros ben i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am yr arian hwn. Mae’r safle’n ddarn hanfodol o’n treftadaeth ddiwydiannol a bydd cefnogaeth y Loteri yn ein galluogi ni i anadlu bywyd newydd i mewn i’r ardal a diogelu olion yr heneb werthfawr a hanesyddol hon sy’n ein gofal. Bydd hefyd yn gymorth i ni ddathlu etifeddiaeth y safle yn y gymuned leol ac ymhlith ymwelwyr, gan ddangos effaith arwyddocaol y safle ar yr ardal. Mae ein swyddogion wedi gweithio’n ddiflino i gyrraedd y sefyllfa hon ac edrychwn ymlaen at gydweithio ar y prosiect gyda chymorth arbenigwyr, contractwyr a gwirfoddolwyr er mwyn troi’r weledigaeth wych hon yn realiti cyffrous.”

Bydd y prosiect yn sefydlogi a chadw coetiroedd hynafol ac adeiladau’r safle. Ein gobaith yw y bydd yn gynllun uchelgeisiol i ddarparu addysg, dehongliadau a gwybodaeth i ysbrydoli cenedlaethau yn awr ac i’r dyfodol i’w hannog i gofleidio ac ymgysylltu â’r safle a chael trigolion, staff a gwirfoddolwyr i gysylltu o’r newydd â’r safle. Gydag amser, y gobaith yw y bydd y prosiect yn rhoi hwb i les economaidd yr ardal a bydd cynllun cynnal a chadw a rheoli hirdymor yn cael ei lunio ar gyfer y safle.

Meddai Ruth Coultard, Rheolwr Prosiect Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Bydd y prosiect ‘Explosive Times’ yn un o’r darnau gwaith ailadeiladu mwyaf uchelgeisiol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a bydd yn gyfle gwych i ni warchod ac uwchraddio’r Heneb Restredig anghofiedig hon i ddiwallu anghenion cynulleidfaoedd newydd. Dyma grant sylweddol i warchod safle penodol. Bydd yn ein galluogi i gael effaith anferth ar gadwraeth yr ardal gan hybu’r economi ar yr un pryd.”

Ychwanegodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, “Mae gan y prosiect hwn botensial i wneud gwahaniaeth mawr i’n treftadaeth ddiwydiannol a chenedlaethol. Diolch i arian chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gall Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ddatblygu cynlluniau i warchod, gwella a rhannu darn unigryw o’n treftadaeth Gymreig. Edrychwn ymlaen at glywed sut mae’r prosiect yn dod yn ei flaen yn y misoedd i ddod”.

-DIWEDD –