Gwylio sêr yn nigwyddiad Awyr Dywyll Trecastell

Gyda phedair planed mewn rhes a chawod sêr gwib Lyrid i’w gweld – digwyddiad Awyr Dywyll Trecastell oedd y lle i fod i seryddwyr o bob cwr o Gymru nos Wener – er gwaethaf y tywydd cymylog. 

Gyda chymorth trwy brosiect Cynghreiriau Gwledig Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, bu Dyffryn Wysg Uchaf yn gweithio gydag Awyr Dywyll Cymru i gynnal digwyddiad gwylio sêr addysgiadol am ddim yn Neuadd Gymuned Trecastell a’r capel lleol er mwyn i bobl leol ac ymwelwyr ddysgu mwy am yr awyr uwch eu pennau. Roedd yna blanetariwm, llwybr cwis planedau a sgyrsiau addysgiadol ar y Teulu Herschel a’u cyfraniad enfawr at seryddiaeth. Cafodd yr holl docynnau am ddim eu gwerthu wythnosau ymlaen llaw, hyd yn oed y sesiwn ychwanegol a drefnwyd oherwydd y galw.

Prosiect rhyngwladol a ariennir trwy raglen Interreg IVB Gogledd-orllewin yr UE a chyda chymorth Llywodraeth Cymru yw Cynghreiriau Gwledig. Mae’n helpu busnesau a chymunedau i weithio gyda’i gilydd i wella bywiogrwydd gwledig.

Meddai Sharon Millar, Llysgennad Awyr Dywyll y Parc Cenedlaethol ac ysgrifennydd grŵp Dyffryn Wysg Uchaf: “Er bod cymylau yn yr awyr, roedden ni’n gallu defnyddio’r planetariwm a daeth llawer iawn o bobl o bell ac agos i’r digwyddiad, gydag oedolion a phlant yn dysgu mwy am yr awyr dywyll.”

“Hoffai’r gynghrair ddiolch i’r holl wirfoddolwyr a gyfrannodd at lwyddiant y digwyddiad, yn enwedig Eddie Mahoney a’i filwyr o wersyll Pontsenni, a ddaeth i’n helpu ni’n gynnar fore dydd Iau i godi’r babell y tu ôl i neuadd cymuned Trecastell, a David a Nathan am osod y llawr ar gyfer y planetariwm.”

Mae Dyffryn Wysg Uchaf yn cynnig golygfeydd ysblennydd yn ystod y dydd a’r nos. Mae’n adnabyddus yn lleol fel y lle perffaith i syllu ar y sêr; mae’n hawdd ei gyrraedd ac yn ddigon pell o lygredd golau. Cadarnhawyd hyn yn ddiweddar pan gafodd cronfa ddŵr Wysg ei henwi yn Safle Darganfod Awyr Dywyll, sy’n golygu’n swyddogol bod Dyffryn Wysg Uchaf yn un o’r llefydd tywyllaf yn y parc, gyda dau safle Darganfod Awyr Dywyll yn yr ardal (yr un arall yw pentref Crai).

Mae Cynghrair Wledig Dyffryn Wysg Uchaf yn cynnwys gwirfoddolwyr lleol sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo bywiogrwydd cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol yn Nyffryn Wysg Uchaf, ardal sy’n cwmpasu Trecastell, Pontsenni, Defynnog, Crai, Heol Senni, Llandeilo’r Fan a Phentre-bach. Yn ogystal â’r digwyddiad hwn, mae’r grŵp wedi creu cyfres o daflenni cerdded sy’n darparu gwybodaeth hanesyddol am y pentrefi, a bydd yn cynnal digwyddiad fel rhan o ddigwyddiad Agincourt 600 Cymru. Mae croeso i aelodau newydd bob amser. I weld dyddiadau cyfarfodydd, ewch i’r wefan yn www.upperuskvalley.co.uk neu chwiliwch am ‘Upper Usk Valley’ ar Facebook.

Mae’r digwyddiad hwn wedi derbyn cyllid gan brosiect y Cynghreiriau Gwledig, sy’n derbyn 50% o’i gyllid gan Raglen Interreg IVB Gogledd-orllewin Ewrop Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac Arian Cyfatebol a Dargedir Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn cyfrannu at gymdeithas UE fwy cydlynol gan ei fod yn deillio o bobl o wahanol wledydd yn cydweithredu ar faterion cyffredin sy’n cyffwrdd bywydau dinasyddion yr UE. Mae’r prosiect rhyngwladol yn cynnwys 12 o bartneriaid gwahanol o Gymru, Iwerddon, Ffrainc, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd a Gwlad Belg.

-DIWEDD-