Cronfa Natur newydd yn helpu i adfer tirweddau’r Parc Cenedlaethol

Dechreuodd gwaith adfer mawnogydd ac atgyweirio llwybr cerdded mewn steil yr wythnos hon, wrth i hofrenyddion gludo cannoedd o dunelli o docion grug a cherrig mâl i frig Waun Fach – y bryn uchaf yn y Mynydd Du. Dyma gychwyn proses o gydweithio unigryw rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ystâd Glan-wysg a Chymdeithas Porwyr y Mynydd Du i wella bioamrywiaeth y Mynydd Du, diolch i £200,000 o Gronfa Natur Llywodraeth Cymru.

Yn gynharach eleni, dyfarnwyd dros £200,000 o Gronfa Natur Llywodraeth Cymru i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog er mwyn datblygu rhaglen wella barhaus i adfer rhostir, mawnogydd a chynefinoedd eraill yn y Mynydd Du. Hefyd, cafodd Ystâd Glan-wysg, sy’n berchen ar ran sylweddol o’r Mynydd Du a Waun Fach, bron i £20,000 o’r Gronfa Natur er mwyn gwella cyflwr natur yr ardal. Mae’r grantiau’n gyfran sylweddol o Gronfa Natur Llywodraeth Cymru – sy’n buddsoddi mewn prosiectau arloesol a chydweithredol ledled Cymru er mwyn cefnogi camau gweithredu ymarferol i wella meysydd bioamrywiaeth wrth ddarparu manteision i gymunedau ac economïau lleol.

Heddiw, mae cam cynta’r cyllid wedi’i gyflwyno er mwyn defnyddio hofrenyddion i ddanfon cannoedd o dunelli o gerrig a thocion grug i’r ardaloedd sydd wedi’u heffeithio ar Waun Fach. Rhagwelir y bydd yr hofrenyddion yn gwneud sawl taith dros y pythefnos nesaf er mwyn cwblhau’r gwaith – sy’n cael ei gyflawni ar y cyd ag Ystad Glan-wysg a Chymdeithas Porwyr y Mynydd Du.

Mae Waun Fach 2660 o droedfeddi uwchlaw’r môr, ac yn cael ei hystyried yn un o dirweddau mwyaf anghysbell y Parc Cenedlaethol. Does dim modd cyrraedd yno mewn cerbyd.  Dros amser, mae effeithiau cynyddol gan gerddwyr, yn ogystal â ffactorau eraill, wedi cyfrannu at erydu’r llwybr cerdded, gyda difrod rheolaidd i’r ardaloedd mawnogydd cyfagos. Bydd tîm arbenigol o gontractwyr lleol, wardeiniaid y Parc Cenedlaethol, porwyr a gwirfoddolwyr yn gweithio mewn tymheredd dan y rhewbwynt er mwyn mynd ati’n ofalus i greu llwybr troed ag arwyneb cerdded sefydlog, a fydd yn lleihau effeithiau sathru yn y safle unigryw hwn o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SoDdGA) a gwarchod y fawnog. Bydd ardaloedd agored o fawn sydd wedi erydu yn cael eu gorchuddio â thocion grug a bydd y rhigolau’n cael eu blocio er mwyn atal rhag o ddifrod erydol. Dewiswyd yr agregau yn ofalus yn sgil cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru, oherwydd eu bod yn gadarn a gwydn ac yn cydweddu â cherrig sydd yno’n barod.

Meddai Harry Legge-Bourke, tirfeddiannwr Waun Fach am y prosiect newydd hwn:  “Roeddem wrth ein boddau o ddeall bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r grantiau i ariannu’r prosiect unigryw, cydweithredol, hwn rhwng holl randdeiliaid y Mynydd Du sy’n ceisio arafu’r dirywiad o ran cyflwr natur yr ardal. Am y tro cyntaf, mae porwyr a thirfeddianwyr yn arwain y blaen er mwyn adfer bioamrywiaeth Waun Fach, a dyma sy’n gwneud y prosiect hwn hyd yn oed yn fwy unigryw. Mae Waun Fach yn rhan o Ystad Glan-wysg, ac mae’n hynod arbennig gan ei fod yn cynnig llecyn manteisiol i gerddwyr gyda golygfeydd i lawr at Fôr Hafren. Mae’r ardal yn economaidd bwysig o ran ffermio a thwristiaeth hefyd. Felly, tra rydym yn gwybod bod ymwelwyr yn dod â buddsoddiad sylweddol i’r ardal, mae lawn mor bwysig cydnabod ei fod hefyd yn costio arian i sicrhau bod y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) allweddol hwn yn cael ei warchod a’i gynnal gydol y flwyddyn a bod ymwelwyr yn sylweddoli ei fod yn ardal waith yn ogystal â lle i hamddena.”

Meddai Paul Sinnadurai, Rheolwr Cadwraeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Rydym wrth ein bodd o gael arian i wneud y gwaith uwchraddio pwysig hwn i gynefin mor unigryw a phwysig yn y Parc Cenedlaethol.  Mae’r gwaith pwysig ar Waun Fach yn sicrhau bod llwybr addas i bob tywydd ar gael, nad oes angen gwneud llawer o waith cynnal a chadw arno yn y dyfodol, a fydd yn ei dro yn helpu i ddiogelu’r fawnog fregus a’i thrigolion, sy’n cynnwys  adar nythu ar y ddaear Cofrestredig Ewropeaidd.  Mae mawnogydd yn storfeydd carbon naturiol, ond mae mawnogydd sy’n erydu yn rhyddhau carbon deuocsid ac yn cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr. Felly, yn ogystal â helpu bioamrywiaeth, mae diogelu ac yna adfer y fawnog yn gwneud cyfraniad hollbwysig at leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd. Bydd y gwaith newydd yn gwella amodau i’r da byw, cerddwyr a’r dirwedd o’i chwmpas, sy’n dioddef cryn dipyn pan fo’r llwybrau cerdded wedi’u difrodi. Hoffem hefyd fanteisio ar y cyfle i atgoffa ymwelwyr sy’n dod am dro i’r ardal gyda chŵn, eu bod yn eu cadw ar dennyn byr bob amser rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, a phan fyddant yn agos i’r stoc – a hynny er mwyn diogelu da byw ac adar sy’n nythu ar lawr.”

Nid Waun Fach yw’r unig lwybr cerdded poblogaidd i gael cymorth hofrenyddion i wella’r ardal. Mae gwaith parhaus yn cael ei wneud ar lwybr Clawdd Offa ym Mhenybegwn hefyd, yn cynnwys cludo cannoedd o dunelli o gerrig mâl a thocion grug yng nghanol mis Ionawr er mwyn trwsio problemau erydu o amgylch y llwybrau. Mae Llwybr Clawdd Offa yn Llwybr Cenedlaethol, a chafodd y gwaith hwn ei ariannu gan gronfeydd Cynllun Gwella Hawliau Tramwy a ddarparwyd i Awdurdod y Parc Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Natural England.

Dywedodd Margaret Underwood, hyrwyddwr bioamrywiaeth i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Mae’n bwysig bod pobl yn gallu mwynhau mynd i gerdded a gweld y golygfeydd bendigedig heb ddifrodi’r llefydd hudolus hyn. Diolch i Gronfa Natur Llywodraeth Cymru, mae gennym gyfle i ddarparu llwybr o ansawdd uchel sy’n cynnig teithiau cerdded da, golygfeydd godidog ac sy’n diogelu bioamrywiaeth gyfoethog yr ardal er budd cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae’r gwaith ar Waun Fach yn rhan o fenter llawer mwy i wella cyflwr ucheldiroedd y Mynydd Du. Mae nifer o bartneriaid prosiect yn hanfodol i sicrhau llwyddiant y rhaglen. Maes o law, byddwn yn datblygu partneriaeth rheoli tir hirdymor gyda Chadeirydd annibynnol a chynrychiolwyr o ystadau Glan-wysg, Tregoyd, Bal Bach/Bal Mawr, Dug Beaufort, Michaelchurch, Ffawyddog ac Evans-Bevan, Cymdeithas Porwyr y Mynydd Du, Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Natural England ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog hefyd yn gweithio gydag ADAS ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru er mwyn cyflwyno elfennau o’r grant Cronfa Natur.

 Os hoffech ymuno â phrosiect Gwirfoddolwyr Ucheldir y Mynydd Du, ffoniwch Jason Rees ar 01874 620484 neu e-bostiwch jason.rees@beacons-npa.gov.uk

-DIWEDD-