Chwefror 2015

Sefydliad y Merched Tal-y-bont ar Wysg yn rhoi croeso cynnes i breswylwyr newydd

Mae Sefydliad y Merched yn enwog am ei galendrau, ond mae Sefydliad y Merched Tal-y-bont ar Wysg yn cerdded yr ail filltir, gan gynnig Basged Groeso i bobl sy’n symud i’r pentref hardd hwn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’w helpu i ymuno yn y gymuned leol o’r cychwyn cyntaf.…

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnal ymweliad twristiaeth Ewropeaidd

Daeth ymweliad twristiaeth Ewropeaidd a ariannwyd gan y Cynghreiriau Gwledig i ben yr wythnos diwethaf (dydd Gwener 13 Chwefror 2015) ar ôl dau ddiwrnod o drafod, gweithdai ac ymweliadau diddorol â rhai o atyniadau mwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol.  Llwyddodd yr ymweliad rhyngwladol, a gynhaliwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau…

Llosgi dan reolaeth i ddiogelu rhag tanau gwyllt

Efallai fod trigolion ardal Trap, wrth droed y Mynydd Du, wedi cael braw wythnos diwethaf o weld tân yn llosgi ar gomin Mynydd Isaf ger Castell Carreg Cennen - ond y tro hwn, tân bwriadol a llesol ydoedd. Dan drefniant Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, daeth dros ddeugain o gominwyr…

Mae detholiad newydd o nwyddau’r Parc Cenedlaethol bellach ar gael ar ein siop ar-lein ar ei newydd wedd

Gall cwsmeriaid siopa ar-lein yn www.breconbeacons.org/shop/ Gostyngiad o 20% dros benwythnos Gŵyl Ddewi Ydych chi wrth eich bodd gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog? Yn chwilio am gofrodd o’ch ymweliad â’r ardal? Mae gennym newyddion da - mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig 20% o ostyngiad ar bopeth yn…

Cronfa Natur newydd yn helpu i adfer tirweddau’r Parc Cenedlaethol

Dechreuodd gwaith adfer mawnogydd ac atgyweirio llwybr cerdded mewn steil yr wythnos hon, wrth i hofrenyddion gludo cannoedd o dunelli o docion grug a cherrig mâl i frig Waun Fach - y bryn uchaf yn y Mynydd Du. Dyma gychwyn proses o gydweithio unigryw rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog,…

Ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi’u diweddaru’n ddigidol

Mae ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi’u dehongli’n ddigidol am y tro cyntaf ers ei ddynodi’n 1955 ac o ganlyniad i brosiect partneriaeth dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn gynharach yr wythnos hon, cwblhaodd y ddau sefydliad y prosiect ar y cyd sy’n sicrhau…