Ysgolion lleol yn ennill statws Llysgennad y Parc Cenedlaethol

Yr wythnos hon, lansiodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol ei Gynllun Ysgolion Llysgennad newydd i roi cyfle i blant ysgol lleol fynd allan i’r awyr agored i ddysgu pam mae eu Parc Cenedlaethol yn lle mor arbennig ac i ddysgu mwy am sut a pham mae’n dirwedd warchodedig. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi datblygu adnoddau newydd i athrawon eu defnyddio yn y Parc gyda phlant ysgol gynradd. Mae’r gwersi newydd yn seiliedig ar annog plant i werthfawrogi’r dirwedd warchodedig y maen nhw’n dysgu ynddi a datblygu sgiliau gweithgareddau awyr agored a’u hyder i gymryd rhan yn y gweithgareddau hynny. 

Mae Tîm Addysg Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi gweithio gyda thair ysgol leol i gynllunio’r prosiect peilot. Cafodd y tair ysgol; Ysgol Gynradd Gymunedol Crucywel, Ysgol Iau Mount Street ac Ysgol Gynradd Talgarth, eu statws Ysgolion Llysgennad y Parc Cenedlaethol mewn seremoni yr wythnos hon.

Roedd y Cynghorydd Anne Webb – Aelod o’r Parc Cenedlaethol – wrth law i longyfarch yr ysgolion: “Rydyn ni wrth ein bodd bod yr ysgolion lleol hyn wedi dod yn Ysgolion Llysgennad; rydyn ni’n falch iawn o’r hyn maen nhw eisoes wedi’i gyflawni o ran helpu i ddatblygu’r prosiect rydyn ni’n ei lansio mewn ysgolion eraill.

“I’r dyfodol, mae ein Tîm Addysg wrth law i weithio gydag unrhyw ysgolion sydd â diddordeb mewn bod allan yn yr awyr agored yn y Parc Cenedlaethol a dod yn Ysgolion Llysgennad – rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n cysylltu â ni fel y gallwn ni helpu eu hathrawon a’u plant i ddechrau elwa mwy fyth ar ddysgu ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae yna wybodaeth ar ein gwefan neu gallai athrawon ein ffonio ni yn uniongyrchol.”

Mae datblygiad y Cynllun Ysgolion Llysgennad wedi’i gefnogi gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’r gronfa Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol. I ddysgu mwy am Ysgolion Llysgennad y Parc Cenedlaethol, ffoniwch y Tîm Addysg, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ar 01874 6224437 neu anfonwch e-bost i educationemail@beacons-npa.gov.uk

-DIWEDD-