Bannau Brycheiniog – Parc Cenedlaethol ‘dementia-gyfeillgar’ cyntaf y DU

Ar ôl misoedd o waith caled, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn falch o gyhoeddi ei fod bellach yn cael ei gydnabod yn swyddogol fel rhywle sy’n ‘Gweithio tuag at fod yn ddementia-gyfeillgar’ – y Parc Cenedlaethol cyntaf yn y DU i ennill y statws hwnnw.

Yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ddiwedd mis Mehefin 2014, cytunodd Aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn unfrydol y byddai’n gweithio tuag at ddod yn Barc Cenedlaethol ‘Dementia-gyfeillgar’ cyntaf y DU. Addawodd y Cadeirydd ar y pryd, Mrs Julie James, y byddai hi’n gwneud ei gorau glas i gyflawni hynny. Dros y misoedd dilynol, daeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhan o Gymuned Cefnogi Dementia Aberhonddu a’r Gelli Gandryll a’r Gynghrair Gweithredu ar Ddementia leol. Ym mis Awst 2014, nododd y Gymdeithas Alzheimer ei bod yn cydnabod Aberhonddu yn swyddogol fel y gymuned gyntaf yng Nghymru sy’n ‘Gweithio tuag at fod yn ddementia-gyfeillgar’.

Fis diwethaf, cyflwynodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol gynllun gweithredu i aelodau – cynllun sy’n ymgorffori hyfforddiant ymwybyddiaeth staff, a dywedodd Rhiannon Davies, Cadeirydd Cymuned Gyfeillgar i Ddementia Aberhonddu, wrth yr Awdurdod fod y Parc Cenedlaethol bellach yn cael ei gydnabod yn swyddogol fel rhywle sy’n ‘Gweithio tuag at fod yn ddementia-gyfeillgar’. Mae Cymuned Cefnogi Dementia Aberhonddu a’r Gelli Gandryll yn gobeithio y bydd brwdfrydedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn helpu i ysbrydoli busnesau a sefydliadau eraill ledled Bannau Brycheiniog i fod yn ddementia-gyfeillgar.

Meddai Rhiannon Davies: “Mae hwn yn gyflawniad gwych i bawb a gyfrannodd at y gwaith. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi dangos ei ymrwymiad o’r dechrau, felly mae’n briodol mai dyma un o’r sefydliadau cyntaf yng Nghymru i ennill y statws hwn.”

Nod y rhaglen ddementia-gyfeillgar yw gwella cynhwysiant ac ansawdd bywyd pobl â dementia trwy ddod ag unigolion, grwpiau, sefydliadau a busnesau lleol ynghyd. Hanfod ymrwymiad Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o fyw gyda dementia trwy fenter Ffrindiau Dementia’r Gymdeithas Alzheimer. Bydd pob aelod o staff, nawr ac yn y dyfodol, a gwirfoddolwyr yn cymryd rhan yn sesiynau gwybodaeth Ffrindiau Dementia, a gynhelir gan Hyrwyddwyr Ffrindiau Dementia. Ar ôl i’r amcanion gael eu cyflawni, bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gweithredu fel Hyrwyddwr ac yn defnyddio ei fodel i greu glasbrint clir o sut i ddod yn ddementia-gyfeillgar i’w rannu, gan helpu Parciau Cenedlaethol eraill y DU i wneud yr un fath. Yn Aberhonddu, mae aelodau’r gymuned leol sy’n helpu i wneud y dref yn ddementia-gyfeillgar yn cynnwys fferyllydd, swyddogion yr heddlu a staff achub mynydd.

Meddai Julie James, cyn-Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’r sbardun y tu ôl i’r fenter: “Rwyf i wrth fy modd ein bod ni’n arwain y ffordd o ran dod yn Barc Cenedlaethol ‘dementia-gyfeillgar’ cyntaf y DU. Mae’r gydnabyddiaeth ddiweddaraf hon yn brawf o’r holl waith caled y mae ein swyddogion wedi’i wneud wrth i ni weithio tuag at wneud y Parc Cenedlaethol hwn yn lle gwell i bobl â dementia. Rydyn ni’n gobeithio y bydd busnesau lleol yn cofrestru ac yn cynnig eu cymorth i’r rhaglen.”

Meddai Mrs Melanie Doel, Dirprwy Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae’n bleser gen i gymeradwyo gwaith y Cynghorydd Paul Ashton, Elizabeth Lewis, ein Swyddog AD, a’r diweddar Huw Price, ein Swyddog Cymunedau, am eu gwaith partneriaeth gyda’r Gynghrair Dementia leol i wireddu ein hymrwymiad i fod yn ddementia-gyfeillgar. Rydyn ni’n falch iawn o allu arddangos y symbol ‘Gweithio tuag at fod yn ddementia-gyfeillgar’, a gydnabyddir yn genedlaethol. Rydyn ni’n parhau i weithio gyda darparwyr twristiaeth a sefydliadau partner allweddol trwy Lysgenhadon y Parc a rhwydweithiau’r Cynghreiriau Gwledig i hyrwyddo’r Parc Cenedlaethol fel cyrchfan dementia-gyfeillgar. Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yw mai Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fydd y Parc Cenedlaethol cyntaf i gael ei gydnabod yn genedlaethol fel rhywle dementia-gyfeillgar, ac y bydd yn gweithredu fel esiampl flaenllaw o arfer gorau mewn cymunedau cefnogi dementia.”

Meddai Sue Phelps, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Alzheimer yng Nghymru: “Erbyn 2015, bydd dros 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru. Mae unigolion, sefydliadau a busnesau yn cydnabod bod angen iddyn nhw ddeall sut i gefnogi pobl â dementia fel y gallan nhw aros yn annibynnol a pharhau i wneud y pethau y maen nhw’n eu mwynhau. Rydyn ni’n hynod falch bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at eu huchelgais o fod yn ddementia-gyfeillgar ac rydyn ni’n gobeithio bod hyn yn golygu y bydd mwy o bobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia yn teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi i fwynhau cefn gwlad ysblennydd Bannau Brycheiniog. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyda’i nod o fod yn Barc Cenedlaethol Dementia-gyfeillgar cyntaf y DU, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol eraill yn dilyn ei esiampl.”

I gael mwy o wybodaeth am ddod yn rhan o fenter dementia-gyfeillgar y Parc Cenedlaethol, ffoniwch Elizabeth Lewis ar 01874 620 426 neu anfonwch e-bost at Elizabeth.lewis@breconbeacons.org

-DIWEDD-