Lansio tocyn teithio Paddington – Aberhonddu heddiw

Heddiw, lansiwyd ffilm fer i hyrwyddo ‘tocyn trwodd’ arbennig i rai sy’n teithio o orsaf Paddington Llundain, Reading, Swindon neu Bristol Parkway i Aberhonddu – calon y Bannau.

Bydd teithwyr o’r gorsafoedd hynny’n gallu prynu tocyn bws a thrên cyfun sy’n ddilys ar daith trên First Great Western i Gaerdydd ac yna gwasanaeth bws T4 Traws Cymru o Gaerdydd i Aberhonddu – gyda’r orsaf fysiau reit tu allan i orsaf trenau Caerdydd Canolog.

Ffrwyth partneriaeth newydd rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Llywodraeth Cymru¸ Croeso Cymru, Cyngor Sir Powys, Trenau Arriva Cymru, First Great Western a Stagecoach De Cymru yw’r ‘tocyn trwodd’ newydd hwn – menter trafnidiaeth integredig o’r iawn ryw.

Meddai Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth: “Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn atyniad mawr i ymwelwyr â Chymru, ac mae ymwelwyr o Loegr yn garfan allweddol i’w denu yma. Bydd y tocyn newydd hwn yn ei gwneud hi’n haws i bobl deithio’n uniongyrchol i’r parc, a’r gobaith yw annog rhagor o bobl i ddefnyddio’r gwasanaeth bws hwn”

Yn ôl Annie Lawrie, Swyddog Trafnidiaeth Gynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae’n haws nag erioed cyrraedd Parc y Bannau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus bellach.  Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath yng Nghymru ac mae’n enghraifft wych o gwmnïau trafnidiaeth lleol a chenedlaethol ac awdurdodau lleol yn cydweithio er budd ymwelwyr o Loegr, sydd wrth eu boddau gyda’r ardal ac sydd eisiau ffordd amgen, ecogyfeillgar o deithio yn hytrach na defnyddio car.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Thomas, arweinydd Cyngor Sir Powys “Mae Aberhonddu yn gyfnewidfa bwysig, ac mae achlysur lansio’r tocyn newydd hwn yn cwblhau’r jig-so integredig yma. Mae’r tocyn hwn yn ffordd hwylus i’n hymwelwyr a’r gymuned wneud taith trên a bws integredig i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac yn ôl.”

Gall teithwyr holi am y tocyn trwodd arbennig hwn yn swyddfa docynnau â staff yng ngorsafoedd Paddington, Reading, Swindon a Bristol Parkway.  Mae’r trên o Lundain i Gaerdydd yn cymryd 2 awr, a’r bws o Gaerdydd i Aberhonddu ychydig dros 1.5 awr.

Crëwyd y ffilm fer hon gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gyda chymorth ariannol gan Glasu. Fe’i cynhyrchwyd gan Greentraveller, asiantaeth gyfryngau trafnidiaeth gynaliadwy.

Gallwch weld y fideo yn http://youtu.be/iaRQN6i_w6E

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun teithio newydd, ewch i www.bannaubrycheiniog.org