Croeso mawr i ardd natur newydd

Cafwyd diwrnod i’r brenin ddydd Sadwrn 14 Mehefin yn agoriad swyddogol gardd natur a lle chwarae newydd Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, ger Libanus.

Trwy lwc, roedd y bobl tywydd yn llygad eu lle a daeth dros fil o bobl draw i Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus yng nghanol heulwen braf. Daeth ymwelwyr o bell ac agos i fwynhau diwrnod gwych o hwyl a hud yn yr ardd bywyd gwyllt, gyda’r gweithgareddau’n cynnwys helfa bwystfilod bach y dŵr, heboga, peintio wynebau, castell neidio, turnio coed, gwaith metel, chwythu gwydr, trin lledr a llogi beics.

Y nod oedd dathlu agor yr ardd bywyd gwyllt â phwll hyfryd yn ganolbwynt iddi, a lle chwarae newydd sbon a fydd o gymorth i ddenu mwy fyth o ymwelwyr dros fisoedd yr haf.

Cyfrannodd sawl sefydliad at y dasg o greu’r llecyn godidog hwn yn y Ganolfan. Bu criw Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Frycheiniog, ysgolion uwchradd Gwernyfed ac Aberhonddu, Cadwch Gymru’n Daclus, y Gwasanaeth Prawf, gwirfoddolwyr a grwpiau ysgolion, a staff y Ganolfan Ymwelwyr yn gweithio’n ddyfal i greu’r ardd natur er budd yr ymwelwyr.

Meddai’r Cynghorydd Geraint Hopkins yn y lansiad:  “Roedd hi’n bleser croesawu cymaint o bobl o bob oed i’r gweithgareddau yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol. Roedd hi’n braf gweld yr holl frwdfrydedd amlwg wrth brofi a dysgu am fywyd gwyllt. Diolch o galon i bawb am weithio mor galed i greu’r ardd natur a’r lle chwarae yn atyniad gwerth chweil. I’r rhai ohonoch nad oedd yno ar y diwrnod, dewch da chi i’r Ganolfan, dewch â’ch plant a’ch wyrion gyda chi, a manteisiwch ar gyfle gwych i gysylltu â byd natur.”

Mae’r ardd wedi derbyn cymorth ariannol a chefnogaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Mae’r pwll unigryw, a grëwyd ym mis Chwefror, yn ffynnu ac yn atyniad amlwg i rianedd y dŵr, chwilod y dŵr, brogaod, gweision y neidr, madfallod y dŵr, mhalod y pall a llu o greaduriaid di-asgwrn-cefn eraill, mwyeilch a ji-bincod a llawer mwy. Mae gwirfoddolwyr bywyd gwyllt wedi creu’r cynefinoedd a’r pwll trochi hyn ar gyfer grwpiau ysgolion newydd a fydd yn ymweld â’r Ganolfan yr haf hwn.

Meddai Andrea Mansfield, Rheolwr Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol:  “Rydym wedi cael llawer o sylwadau cadarnhaol gan ymwelwyr ers dechrau’r prosiect hwn, ac rydym yn gobeithio y bydd yr ardd unigryw hon yn ysbrydoli pobl i ddenu mwy o fywyd gwyllt i’w gerddi nhw – hyd yn oed os mai hances poced o ardd sydd ganddynt. Rydym eisoes wedi gweld mwy o wenyn, gloÿnnod byw a phryfed ers creu’r ardd, ac rydym yn gobeithio cyflwyno gwelliannau pellach wrth i’r flwyddyn fynd ymlaen. Bu cryn lafurio a chwysu chwartiau i sicrhau bod yr ardd fel y mae heddiw, a dylai pawb gyfrannodd deimlo’n falch dros ben heddiw. Mae’r ardd yn prysur ddatblygu’n hafan dawel i fywyd gwyllt a natur. ”

Cafodd yr Ardd Natur ei lansio’n swyddogol ddydd Sadwrn 14 Mehefin gyda’r nod o sbarduno diddordeb oes mewn bywyd gwyllt a garddio. Bydd Gwasanaeth Addysg y Parc Cenedlaethol hefyd yn defnyddio’r pwll a’r ardd fel adnoddau addysg ar gyfer ymweliadau ysgolion. I archebu, ffoniwch y tîm addysg ar 01874 624437.

Mae’r Ganolfan Ymwelwyr ymhlith llu o atyniadau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n ymestyn dros 520 o filltiroedd. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.breconbeacons.org neu ffoniwch 01874 623366.

-DIWEDD-