Agor arddangosfa newydd i ddathlu bywyd cantores opera ym Mharc Gwledig Craig y Nos

Mae’n addas iawn mai dylunydd setiau theatr sydd wedi cwblhau’r gwaith o baratoi arddangosfa newydd hynod drawiadol sy’n dathlu bywyd y gantores opera enwog, Adelina Patti. Agorodd yr arddangosfa i’r cyhoedd ym Mharc Gwledig Craig y Nos yr wythnos hon.

Lansiwyd yr arddangosfa ddydd Sadwrn 31 Mai i ddathlu gyrfa’r gantores soprano Adelina Patti, ac fe’i lleolir yn yr hen bantri helgig sydd wedi’i adnewyddu i fod yn gartref i gyfoeth o ddeunydd archif, gan gynnwys ffotograffiaeth, deunydd cofiadwy, hen gramoffon, ac o un o ffrogiau Adelina Patti sydd wedi’i hail-greu drwy ddefnyddio papur yn unig.

Mae’r ffrog 20 modfedd o gwmpas y canol – sy’n ddwy fodfedd yn fwy na chanol go iawn Adelina – wedi’i hail-greu’n ofalus iawn gan Eleri Lloyd, dylunydd theatr ifanc a raddiodd gydag anrhydedd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, drwy edrych ar ffotograff o Adelina.

Mae’r arddangosfa newydd yn deillio o gyfarfod ar hap rhwng Bob Grainger, ffotograffydd lleol sy’n gweithio yn y Parc Gwledig, a Tony Hibbert, sy’n ŵyr i brif arddwr Adelina, Constantine Hibbert – a oedd yn was ffyddlon iddi am dros 30 mlynedd. Mae deunydd cofiadwy a lluniau Tony wedi’u defnyddio mewn llyfr am ei daid o’r enw Fresh Flowers for M’Lady sydd bellach yn rhan o’r arddangosfa ac o gyflwyniad clyweledol byr yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mair a Tony Hibbert sy’n adrodd y stori, ac mae gwraig o gefndir Eidalaidd a Chymreig wedi’i dewis i ddarllen darnau o lythyrau Adelina ar y trac sain er mwyn ceisio gwneud y gwaith mor ddilys â phosibl.

Meddai dylunydd y set, Eleri Lloyd: “Mae’r prosiect hwn wedi bod yn llafur cariad go iawn. Rwy’n gobeithio bod y gwaith ar y ffrog yn adlewyrchu hanfod Adelina, a oedd yn cael ei thrin fel aelod o’r teulu brenhinol yn Ewrop a’r Unol Daleithiau. Bues i wrthi am dros 100 awr yn ail-greu’r ffrog, a hyd yn oed wrth ddefnyddio’r model ffrog lleiaf sydd â chanol 20 modfedd, roedd y canol yn dal i fod yn 2 fodfedd yn fwy na chanol go iawn Adelina.”

Dywedodd Julie James, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn y lansiad: “Mae’r arddangosfa ardderchog hon yn rhoi cipolwg prin i ni o fywyd a chyfnod Adelina Patti – ei magwraeth, ei hathrylith artistig a’i haelioni tuag at bobl a chymunedau Cwm Tawe. Nid yw hanes bywyd diddorol Adelina wedi’i adrodd yn llawn eto, ac rydym yn ceisio denu sylw cynulleidfa ehangach drwy’r arddangosfa greadigol hon a’r cyflwyniad.”

Meddai Bob Grainger yn ystod yr agoriad: “Ers sawl blwyddyn roedd gen i ddiddordeb mewn dod o hyd i ffordd o adrodd stori Adelina Patti i’r bobl sy’n ymweld â’r ardal hon. Rydym yn gyfarwydd â gwaith elusennol Adelina yng Nghwm Tawe, ond nid yw llawer o bobl yn gwybod iddi gael rhyddfraint Aberhonddu ac Abertawe fel cydnabyddiaeth am ei holl haelioni. Defnyddiwyd ei gerddi llysiau a’i gwelyau blodau yng Nghraig y Nos i dyfu bwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac roedd hi’n fodlon iawn perfformio a rhoi bwyd i’r bobl leol a’r bobl mewn ardaloedd tlawd. Pan fu farw, gadawodd ei Gardd Aeaf i Abertawe, ac fe gafodd ei symud a’i hail-enwi’n Bafiliwn Patti ac mae’n dal i sefyll heddiw. Mae’n braf talu teyrnged i’w hymdrechion drwy’r arddangosfa hon a chofio am ei holl waith ardderchog yma yng Nghraig y Nos – yn y lle a garodd fwyaf.”

Meddai Tony Hibbert: “Mae wedi bod yn fraint cyfrannu at y gwaith o roi sylw haeddiannol i fywyd Adelina. Roedd gan fy nhaid feddwl mawr ohoni, a byddai’n falch o weld rhywfaint o’i waith a’i stori yma hefyd.”

Mae’r arddangosfa yn agored tan ddiwedd mis Medi ac nid oes tâl mynediad.

–  DIWEDD –