Gŵyl Ddefaid Llanymddyfri yn disgwyl denu torfeydd enfawr am ei phumed flwyddyn.

Mae pumed Gŵyl Ddefaid flynyddol Llanymddyfri – a gefnogir gan brosiect Cynghreiriau Gwledig Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – yn prysur agosáu, ac mae’n argoeli i fod yn benwythnos i’w gofio.

Eleni, bydd yr ŵyl, a gynhelir rhwng dydd Gwener 26 Medi a dydd Sul 28 Medi, yn talu teyrnged i’r Rhyfel Mawr a bydd popeth yn canolbwyntio ar y cyfnod hwnnw mewn hanes. Mae nawdd gan Ei Fawrhydi Tywysog Cymru a brwdfrydedd cymunedol hen ffasiwn wedi sicrhau bod Gŵyl Ddefaid Llanymddyfri wedi mynd o nerth i nerth bob blwyddyn, gan fywiogi penwythnos olaf mis Medi gyda chymysgedd o weithgareddau, hwyl a sbri a chyfleoedd i gymryd rhan.

Mae’r gweithgareddau newydd eleni yn cynnwys y Ras Ddefaid yng nghanol y dref ar y nos Sadwrn, Sheeptacular (fel y gwelir yn y Sioe Fawr), arddangosfeydd coginio gan ddefnyddio cynnyrch Cymreig, y Gardigan Fawr a dosbarthiadau gwau cysylltiedig, dathlu 70 mlynedd o’r Clwb Ffermwyr Ifanc, dafad ‘rodeo’, digwyddiad llenyddol bach i feirdd, addasiad byr ein theatr ieuenctid o A Winter’s Tale, dawns y glocsen, côr meibion Llanymddyfri, cystadleuaeth gelf i blant, cerddoriaeth gan Fiddle Box, dirgelwch gyda Dr Nicholas Grimoire, yr Alchemy Dragons, treialon cŵn defaid a llu o stondinau masnach.

Mae’r ŵyl gymunedol wych hon yn cael ei chefnogi gan ei noddwr Ei Fawrhydi Tywysog Cymru ac, yn ôl pobl leol, mae wedi anfon ei ddymuniadau gorau i’r ŵyl ac mae’n annog pawb i barhau i ddathlu rhyfeddodau gwlân. Nid yw’n gyd-ddigwyddiad bod yr ŵyl yn cael ei chynnal ym mis Medi i gyd-fynd ag Wythnos Wlân y DU (dydd Llun 6 Hydref 2014 tan ddydd Sul 12 Hydref 2014), a sefydlwyd gan Dywysog Cymru.

Meddai Fiona Walker, cydgysylltydd cyffredinol yr ŵyl: “Pwy fyddai wedi meddwl, bum mlynedd yn ôl, y gallai ein tref fach gynnal penwythnos mor fywiog a difyr a denu cymaint o bobl o bell ac agos. Ond dyna yn union sy’n digwydd bob blwyddyn. Mae’n bleser gennym groesawu noddwyr newydd, gan gynnwys Castell Howell, gan ychwanegu at nifer y cefnogwyr lleol sy’n helpu i wneud yn siŵr bod yr ŵyl yn fywiog ac yn hygyrch i bawb sydd am fod yma. Mae angen i ni ddiolch i’n holl wirfoddolwyr ymroddgar sy’n ymuno yn yr hwyl, i’r holl fasnachwyr a’n holl ymwelwyr sy’n helpu i wneud hwn yn ddigwyddiad heb ei ail. Gobeithio y bydd pawb yn mwynhau eu hunain ac yn helpu i wneud hwn yn ddechrau perffaith i’r hydref.”

Mae’r ŵyl yn cael ei chefnogi gan brosiect Cynghreiriau Gwledig Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a ariennir gan raglen Interreg IVB Gogledd-orllewin Ewrop yr UE a Llywodraeth Cymru.

Meddai Catrin Parish Marks, Swyddog Twristiaeth Gynaliadwy: “Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn falch iawn ei fod wedi gallu cefnogi Gŵyl Ddefaid Llanymddyfri o’r cychwyn cyntaf yn 2010. Mae’r hyn a ddechreuodd fel syniad arloesol wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad heb ei ail sy’n dathlu treftadaeth amaethyddol y dref. Mae’n ddigwyddiad sy’n cael ei fwynhau gan y gymuned leol ac ymwelwyr â Llanymddyfri. Mae digwyddiad eleni’n argoeli i fod yn well nag erioed, gyda llawer o weithgareddau a stondinau newydd.

“Mae llawer iawn o gynllunio ac amser yn mynd i mewn i’r digwyddiad blynyddol hwn, sy’n brawf o gydlyniant cymunedol cryf a bywiogrwydd Llanymddyfri. Mae’r Parc Cenedlaethol yn gallu cefnogi’r prosiect trwy’r prosiect Cynghreiriau Gwledig, cyllid gan raglen Interreg IVB Gogledd-orllewin Ewrop yr UE a rhaglen Arian Cyfatebol a Dargedir Llywodraeth Cymru, a’r nod craidd yw edrych ar yr hyn sy’n gwneud cymunedau gwledig yn gryf. Mae Llanymddyfri yn enghraifft wych o sut mae cymuned wledig yn cydweithio i sicrhau bod ei thref yn lle cyfeillgar i bobl o bob oed fyw ynddi.”

Yn ogystal â darparu llawer o bethau difyr i blant ac oedolion eu gweld a’u gwneud, mae’r gwahanol ddigwyddiadau yn dangos y gweithgareddau sy’n rhan annatod o dreftadaeth ddiwylliannol Llanymddyfri ac rydym yn gobeithio y bydd yr holl ymwelwyr yn mwynhau ac yn gwerthfawrogi rhyfeddodau’r drefn wledig hon.

I gael mwy o wybodaeth am Ŵyl Ddefaid Llanymddyfri, ffoniwch y cydgysylltydd Fiona Walker ar 07974 434 991.

Mae’r rhaglen lawn ar gael yn www.llandoverysheepfestival.co.uk

-DIWEDD-