Ar drywydd Gŵyl Gerdded Talgarth

Efallai bod tref hanesyddol Talgarth yn fwy adnabyddus am Bwll y Wrach, ei chastell, ei mynyddoedd a’i melin ar ei newydd wedd, ond mae Gŵyl Gerdded Talgarth yn prysur ennill ei bri. Ac wrth i’r tywydd teg barhau, a gwyliau cerdded yn y Bannau ar gynnydd, cynhelir yr Ŵyl boblogaidd hon am yr eildro rhwng 2-5 Mai 2014.

Dyma’r ail ŵyl gerdded o’i bath i’w chynnal yn y dref a ddisgrifir yn aml fel ‘y porth i’r Mynyddoedd Duon’. Trefnir y cyfan gan grŵp Croeso i Gerddwyr Talgarth ac fe’i hariennir gan Gynghreiriau Gwledig. Mae aelodau’r grŵp Croeso i Gerddwyr yn cynnwys cymysgedd o fusnesau lleol, sefydliadau elusennol, darparwyr llety a cherddwyr brwd sydd eisiau gweld y dref yn ffynnu gydol y flwyddyn. Felly, p’un ai’ch bod am fentro i wneud y ‘tair her’ uchelgeisiol neu roi cynnig ar lu o lwybrau cerdded i’r teulu cyfan – mae rhywbeth at ddant pawb yma.

Mae’r Ŵyl yn cynnig 70 a mwy o deithiau tywys dros 4 diwrnod ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer pobl o bob oed, gallu a diddordeb, ac mae’r llwybrau cerdded godidog yn amrywio o’r rhai hawdd a gwastad braf i rai mwy heriol ar y copaon.

Cewch gyfle i ddysgu sgiliau newydd neu hogi hen rai gyda chwrs sgiliau cyfeirio a darllen mapiau, mynd ar daith fforio, ymweld â gerddi lleol, sgwrs cyflwyniad i ddaeareg, cwis tafarn, cymryd rhan mewn digwyddiad cyffrous am ffosilau neu ddysgu mwy am archaeoleg a hanes natur yr ardal. Bydd yr ŵyl hefyd yn cyflwyno ras gyntaf ‘O’r Felin i’r Mynydd’ a gweithgareddau amrywiol i blant, yn ogystal â’r hen ffefrynnau fel Her Pwll y Wrach. Mae’r holl deithiau wedi’u graddio yn ôl pa mor hawdd/anodd ydyw dan draed yn ogystal â pha mor serth ydyw; ac wedi’u tywys gan gerddwyr ac arweinwyr teithiau profiadol, gyda gwybodaeth leol heb ei hail. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i fwynhau golygfeydd ysblennydd a dysgu rhywbeth newydd am hanes a thirwedd y fro, dan law arbenigwyr lleol. Talgarth yw man cychwyn y rhan fwyaf o’r teithiau hyn, ac eithrio ambell un lle mae angen gyrru i feysydd parcio cyfagos er mwyn cael mynediad hwylus i’r bryniau. Mae un daith hyd yn oed yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr ŵyl www.talgarthwalkingfestival.org.  Neu, mae croeso i chi ffonio 01874 712226 neu e-bostio info@talgarthwalkingfestival.org

–  DIWEDD –