Y Loteri Treftadaeth yn ariannu hyfforddeiaethau newydd yn y Parc Cenedlaethol

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dyfarnu arian i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ddarparu 12 o hyfforddeiaethau cadwraeth blwyddyn o hyd, â chyflog, dros y tair blynedd nesaf.

 

Mae ‘Sgiliau’r Dyfodol’ Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dyfarnu grant o £908,500 i’r bartneriaeth ‘Sgiliau ar Waith’ sy’n cynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Bydd y prosiect yn darparu 12 hyfforddeiaeth blwyddyn o hyd, â chyflog, dros gyfnod o dair blynedd gan roi cyfle i bobl gael profiad gwaith ymarferol ym maes cadwraeth a rheoli ystadau. Byddan nhw’n ennill cymhwyster City & Guilds Lefel 2 mewn rheoli cadwraeth ochr yn ochr â meithrin sgiliau a gwybodaeth newydd drwy weithio gyda thimau rheoli ystadau a chadwraeth.

Mae’r hyfforddeiaeth yn addas ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn gwaith rheoli ystadau a chadwraeth ymarferol neu waith tebyg. Nod y prosiect yw recriwtio pobl leol yn bennaf a rhoi lleoliadau i’r rhai sy’n ymddangos yn fwyaf tebygol o elwa ar y cyfle.

Bydd hyfforddeion Sgiliau ar Waith yn gweithio ochr yn ochr â’r timau wardeniaid/parcmyn yn gwneud pob math o waith rheoli cadwraeth drwy gydol o flwyddyn. Bydd cyfleoedd hefyd i unigolion feithrin sgiliau ychwanegol yn y sector rheoli treftadaeth, er enghraifft, drwy weithio gyda staff gwybodaeth ac addysgwyr amgylcheddol. Bydd y prosiect hefyd yn rhoi hyfforddiant ychwanegol i staff ar diwtora ac asesu sgiliau, fel y gallan nhw helpu’r hyfforddeion a throsglwyddo’r sgiliau a’r profiad maen nhw wedi’u cael wedi blynyddoedd yn y sector.

Bydd y prosiect yn cynnig tri deg chwech o hyfforddeiaethau blwyddyn o hyd â chyflog: chwech y flwyddyn gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, pump gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac un gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Meddai Mrs Julie James, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Dyma gyfle gwych i bobl ifanc Cymru a newyddion rhagorol i Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’n partneriaid prosiect. Rydym ni’n hynod falch y bydd 12 hyfforddeiaeth newydd yn cael eu creu ledled Cymru diolch i’r buddsoddiad sylweddol hwn a’n gobaith yw y bydd yr arian ychwanegol hwn yn helpu i annog twf yn y sector cadwraeth.”

Meddai Julian Atkins, Cyfarwyddwr Rheoli Cefn Gwlad a Thir Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Bydd y prosiect yn rhoi cyfle i hyfforddi ochr yn ochr â staff cymwysedig a bydd yn gam pwysig er mwyn i bobl ifanc fynd ymlaen i gael rhagor o hyfforddiant a gwaith. Mae tystiolaeth o brosiectau llwyddiannus eraill a gynhaliwyd gennym yn y gorffennol yn dangos bod yr hyfforddeiaethau hyn yn helpu pobl i gael gwaith mewn sefydliad arall yn y maes cadwraeth. Edrychwn ymlaen at groesawu’r hyfforddeion ym mis Medi a gweithio gyda nhw dros y flwyddyn i ddod.”

Meddai Jennifer Steward, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri: “Mae’r prosiect hwn yn ffordd wych o roi cyfle i bobl gael hyfforddiant ymarferol yn y gwaith, ar adeg pan mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl i ddilyn eu gyrfaoedd. Bydd sicrhau bod gennym ni weithlu medrus ar gyfer y dyfodol drwy sicrhau bod gennym ni ddigon o bobl wedi’u hyfforddi i ddiogelu a gwarchod ein bywyd gwyllt ac ysbrydoli’r cyhoedd i gyfrannu at y gwaith o gymorth i sicrhau sector cryf a chadarn.

Mae pecynnau cais ar gael drwy fynd i http://www.beacons-npa.gov.uk/the-authority/job-vacancies/vacancies  neu drwy gysylltu â Richard Mears, Rheolwr Adnoddau Dynol Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar 01874 620425 neu e-bostio richard.mears@beacons-npa.gov.uk

I roi cyfle i bobl gyfarfod â staff a dysgu mwy am y rhaglen, byddwn yn cynnal diwrnod agored ‘galw heibio’ ddydd Gwener 6 Mehefin (1:30pm- 4:30pm) a dydd Sadwrn 7 Mehefin (10am – 1pm) yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Libanus, Aberhonddu.  Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 20 Mehefin 2014.

–  DIWEDD –