Brodyr o Gymru yn ennill medal gilt arian yn Chelsea am ardd a ysbrydolwyd gan yr awyr dywyll

Mae dau frawd o Gymru, Harry a David Rich, wedi ennill medal gilt arian yn Sioe Flodau Chelsea eleni am eu gardd Vital Earth:  The Night Sky Garden, a ysbrydolwyd gan awyr dywyll Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – un o bum Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol yn y byd.   

 Llwyddodd Harry,  26 oed a David, 23 oed (dylunydd ifancaf gardd yn Sioe Chelsea) i greu’r ardd unigryw drwy ddefnyddio dur, gwydr, cerrig naturiol, pren a phlannu naturiolaidd. Mae ennill y fedal gilt arian ar y Brif Rodfa yn dilyn llwyddiant y brodyr y llynedd pan enillwyd medal Aur ganddynt ar gyfer gardd grefftus yn 2013.

Noddir y brodyr gan Bord na Móna, prif gyflenwr cyfleustodau ecogyfeillgar cyfrifol Iwerddon, a’r brand compost di-fawn Vital Earth, ac maent yn cael eu cefnogi gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Roedd yr ardd yn cynnwys llwybr cerrig crynion siâp seren yn mynd trwy gyfres o waliau cerrig crwm – sy’n dod o Chwarel Llangors ym Mannau Brycheiniog – gan olrhain siâp clystyrau o sêr. Mae dau bwll adlewyrchol ag ymylon dur yn portreadu tyllau du, ac mae clogfeini – hefyd o’r Parc Cenedlaethol – yn cael eu defnyddio i bortreadu sêr gwib sydd wedi disgyn. Mae disgiau efydd, wedi’u naddu i’r mur terfyn dur dan haen o bowdr – a wnaed â llaw gan y crefftwr lleol Pete Downey Engineering – yn tywynnu fel clystyrau o sêr yn wybren y nos. Mae plannu naturiolaidd, sy’n llawn lliwiau gwyn, glas ac oren, yn portreadu llwybr y Llwybr Llaethog, ac mae powlen laswelltog a tho’r stiwdio dderwen a gwydr gyfagos, sydd wedi’i gwneud yn y Canolbarth a’i marchnata gan Kestrel Oak, Aberhonddu yn cynnig mannau gwahanol i edrych ar y sêr.

Roedd y Brodyr Rich wrth eu bodd â’r ymateb i’r ardd a gafodd ei dylunio a’i chreu ganddynt. Meddai Harry: “Dyma newyddion gwych sy’n ffordd berffaith o ddilyn ein gardd grefftus a enillodd y llynedd yn Sioe Chelsea.”

Meddai Steve Harper, Pennaeth Consumer UK Bord na Móna: “Mae Harry a David yn hynod dalentog ac mae’n edrych fel bod ganddynt ddyfodol disglair ym maes garddio cyfoes. Mae eu harddull naturiolaidd yn cyd-fynd â gwerthoedd a dyheadau cynnyrch di-fawn Vital Earth ac mae’n bleser i ni gydweithio â nhw.”

Meddai Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Julie James:  “Rydym wrth ein bodd â’r newyddion bod Harry a David wedi ennill medal gilt arian ac rydym mor falch o ymdrechion y ddau frawd ifanc. Llwyddodd eu Gardd Awyr y Nos i gyfleu neges bwysig am statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol y Parc Cenedlaethol, ac mae wedi bod yn wych gweld yr ymateb brwdfrydig i’r ardd gan bobl yma ym Mannau Brycheiniog. Mae pobl yn gallu uniaethu â’r ardd ac mae llawer o bobl wedi dweud ei bod yn edrych fel darn bach o Fannau Brycheiniog wedi’i drawsblannu i ganol Llundain – sy’n brawf o lwyddiant y bechgyn. Rydym yn llongyfarch pawb a oedd yn gysylltiedig â’r gwaith ar eu llwyddiant rhagorol, ac edrychwn ymlaen at eu prosiect nesaf.”

Bydd yr ardd yn cael ei symud yn ofalus yn awr i Goleg Awtistig Beechwood yng Nghaerdydd.  I wybod mwy am Warchodfa Awyr Dywyll Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a sut i drefnu ymweliad yn ystod y dydd neu’r nos, ewch i www.breconbeacons.org/stargazing

–  DIWEDD –