Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gofyn am sylwadau ar y cynllun gweithredu a’r strategaeth drafft

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi cyhoeddi ei gynllun gweithredu a strategaeth drafft ar gynhwysiant cymdeithasol a thlodi plant, ac yn croesawu sylwadau gan y cyhoedd cyn 24 Chwefror 2014.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn trefnu digwyddiadau rheolaidd er mwyn cynnig manteision y Parc Cenedlaethol i amrywiaeth ehangach o bobl. Er enghraifft, ymunodd Gofalwyr Powys ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ddiweddar i gefnogi diwrnod o hwyl i ofalwyr ifanc o Dde Powys. Bu’r criw ifanc yn cymryd rhan mewn pob math o weithgareddau’r hydref a Chalan Gaeaf ym Mharc Gwledig Craig y Nos ger Ystradgynlais. Cefnogwyd y gweithgaredd gan brosiect Hyrwyddwyr Cymuned yr Awdurdod, wedi’i ariannu’n rhannol gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Nghynllun Gweithredu a Strategaeth drafft ar Gynhwysiant Cymdeithasol a Thlodi Plant ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

(www.beacons-npa.gov.uk/communities) ac rydym yn croesawu’ch sylwadau – yn enwedig yn y pedwar maes canlynol:

1.            Ydy pedwar maes y Strategaeth yn briodol? Ydych chi’n credu bod angen pwyslais ar gynhwysiant ar gyfer un o brif feysydd gweithgaredd eraill Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog?

2.            A yw’r canlyniadau (y canlyniadau a ddisgwyliwn o’r camau gweithredu) yn briodol ac ymarferol?

3.            Ydy’ch sefydliad neu grŵp wedi cymryd rhan yn unrhyw un o’r gweithgareddau a nodir yn y Cynllun Gweithredu? Gawsoch chi unrhyw adborth?

4.            Oes gennych chi unrhyw gynigion partneriaeth a all fod o fudd i grwpiau ac unigolion wedi’u hallgáu?