Gŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog – llwyddiant ysgubol!

Y wasgfa gredyd oedd y peth diwethaf ar feddyliau’r miloedd o bobl a dyrrodd i dref farchnad Aberhonddu ar gyfer 17eg Gŵyl Fwyd flynyddol Bannau Brycheiniog ddydd Sadwrn diwethaf yn benderfynol o brynu cynnyrch lleol ffres. Yn wir, roedd y rhan fwyaf o’r stondinau mor boblogaidd fel eu bod nhw wedi gwerthu allan cyn cinio!

Derek Brockway and Sue Charles low res

Roedd marchnad Aberhonddu yn fwrlwm o weithgarwch, gyda thros 70 o stondinau yn cynnig popeth o sudd afal, mêl, pasteiod cartref, pasta, cyri, teisennau crwst, bara, cawsiau, cacennau, siocled, cynnyrch heb glwten a chynnyrch fegan i ddanteithion eraill fel cig moch, porc, cig eidion a chig oen ffres lleol.

Canmolodd y Cynghorydd Geraint Hopkins,  Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yr ŵyl: “Mae pawb yn Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn hynod falch o Ŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’n holl gefnogwyr, o bell ac agos, a’n harianwyr – gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae cymaint o wyliau tebyg wedi mynd i’r wal oherwydd problemau ariannol, felly mae pawb yma yn haeddu cymaint o glod am gadw i fynd o dan amgylchiadau anodd. Y bwyd, y corau, y gerddoriaeth, y cystadleuwyr – mae hwn yn ddigwyddiad cymunedol go iawn ac mae’n gwella bob blwyddyn.”

Morning Rush Hour low res

Meddai Andrew Powell, Rheolwr Arlwyo Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Roedd hi’n wych gweld y dref gyfan ar ei gorau ddydd Sadwrn. Bu rhaid i’r rhan fwyaf o’r stondinau ailstocio eu cynnyrch dair neu bedair gwaith ac roedd llawer ohonyn nhw wedi gwerthu allan yn gyfan gwbl erbyn 2pm. Mi groesawon ni 14 o gynhyrchwyr bwyd newydd i’r ŵyl eleni ac rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n dychwelyd flwyddyn nesaf. Hoffwn ddiolch yn fawr i’r holl gogyddion a gymerodd ran yn yr arddangosiadau coginio – maen nhw’n hynod boblogaidd yn yr Ŵyl bob blwyddyn ac maen nhw’n gwneud cymaint o ymdrech ar y llwyfan. Gwen Kenschington o Ysgol Gynradd Pontsenni enillodd cystadleuaeth Cogydd Ifanc y Flwyddyn, a noddwyd gan Goleg Crist. Ac i’r rhai oedd yn methu bod yn bresennol, alla i ddatgelu mai Sue Charles oedd yn fuddugol yn erbyn Derek Brockway yn y gystadleuaeth Ready Steady Cook, a phleser yw cyhoeddi y bydd y ddau ohonyn nhw’n dychwelyd flwyddyn nesaf i herio ei gilydd unwaith eto.”

Yn ogystal â chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae’r Ŵyl Fwyd hefyd yn cael ei noddi gan Coleg Crist, sy’n noddi cystadleuaeth Cogydd Ifanc y Flwyddyn, y Brecon & Radnor Express, National Farmers Mutual, Bwydydd Castell Howell, Celtic Pride, Brecon Carreg, y Felinfach Griffin sy’n rhan o’r Eat Drink Sleep Group a Gwesty’r Castell Aberhonddu.

-DIWEDD-